Cyfraith ganonaidd

Oddi ar Wicipedia

Cyfraith sy'n deillio o awdurdod eglwysig yw cyfraith ganonaidd neu gyfraith ganon (Lladin: jus canonicum) sy'n berthnasol i gyfundrefn a disgyblaeth yr eglwys a hefyd materion ffydd. Cedwir cyfreithiau o'r fath gan yr Eglwys Gatholig neu Babyddol, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, ambell eglwys annibynnol yn y traddodiad Dwyreiniol, a'r Cymundeb Anglicanaidd.[1] Sail y gyfraith ganonaidd yw rheolau ffurfiol yr eglwys, megis gorchmynion ac ordeiniadau'r cynghorau a'r esgobion, yn ogystal â defodau ac agweddau o ddeddf Duw a ymgorfforir i'r deddfau cyfundrefnol. Er ei bod yn aml yn adlewyrchu rhywfaint o ddogma, nid yw'r gyfraith ganonaidd yn anhyblyg: bu'n rhaid iddi ymateb i ddadleuon athrawiaethol ac ymaddasu i newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd.

Gellir olrhain y gyfraith canonaidd yn ôl at yr eglwys Gristnogol gynnar. Tua'r 4g, datblygodd yn system gyfreithiol aeddfed dan ysbrydoliaeth y gyfraith sifil Rufeinig. Yn y 5ed, 6ed a 7ed ganrif dechreuodd ambell gymunfa ddwyreiniol hollti ar reolaeth yr eglwys yng Nghaergystennin gan sefydlu cyfraith ganonaidd annibynnol ac yn adlewyrchu meddylfryd cenedlaetholgar. Roedd cyfraith ganonaidd Eglwys y Gorllewin ac Eglwys y Dwyrain bron yn unfath nes y Sgism Fawr ym 1054. Ers hynny datblygodd y gyfraith ganonaidd Babyddol yn ystod oes tra-arglwyddiaeth yr Eglwys Gatholig yng ngorllewin Ewrop, hyd y Diwygiad Protestannaidd. Gwrthododd y mwyafrif o Brotestaniaid y gyfraith Babyddol, ond cadwodd Eglwys Loegr y cysyniad gan ddatblygu cyfraith ganonaidd ei hunan, a dderbynir heddiw gan eglwysi'r Cymundeb Anglicanaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) canon law. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ionawr 2017.