Wicipedia:Ar y dydd hwn/23 Chwefror

23 Chwefror: Gŵyl genedlaethol Brunei
- 1455 – Cyhoeddwyd y Beibl gan Johann Gutenberg ym Mainz, yr Almaen, y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi yn Ewrop gyda llythrennau teip symudol
- 1723 – Ganwyd yr athronydd Richard Price, un a ddylanwadodd yn fawr ar y Chwyldro Americanaidd
- 1959 – Sefydlwyd Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg
- 1997 – Yng Nghaeredin, cyhoeddwyd bod dafad wedi ei chlonio o'r enw Dolly wedi ei geni'r flwyddyn cynt, y tro cyntaf i famal gael ei glonio'n llwyddiannus.
|