Wicipedia:Ar y dydd hwn/6 Mai
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
- 1937 – dinistriwyd llong awyr yr Hindenburg gan dân wrth iddi lanio yn New Jersey, UDA, gan ladd 36 o bobl
- 1954 – yn Rhydychen, rhedodd Roger Bannister filltir mewn pedair munud namyn eiliad, gan dorri record y cyfnod
- 1958 – crogwyd Vivian Tweed yng Ngharchar Abertawe, y tro olaf i'r gosb eithaf gael ei gweinyddu yng Nghymru
- 1970 – bu farw'r nofelydd Cymreig a ysgrifennai yn Saesneg, Jack Jones
- 1999 – cynhaliwyd yr etholiad cyntaf erioed ar gyfer aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban
|