Wicipedia:Ar y dydd hwn/5 Mehefin
Gwedd
5 Mehefin: Gŵyl mabsant Tudno a Diwrnod yr Amgylchedd
- 1868 – ganwyd James Connolly, un o brif arweinwyr Gwrthryfel y Pasg, Iwerddon, 1916
- 1953 – bu farw Moelona, awdur y nofel Teulu Bach Nantoer
- 1957 – estynwyd Rheilffordd Ffestiniog i Benrhyndeudraeth
- 1920 – bu farw'r nofelydd Rhoda Broughton o Ddinbych
- 1996 – agorwyd yr ail bont dros Afon Hafren
- 2022 – Tîm pêl-droed Cymru'n cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, pan sgoriodd Gareth Bale yn erbyn Wcráin.
|