Wicipedia:Ar y dydd hwn/Medi
1 Medi: Diwrnod annibyniaeth Wsbecistan (1991)
- 1912 – Ganwyd Gwynfor Evans yn y Barri; arweinydd Plaid Cymru (m. 2005)
- 1972 – Daeth Bobby Fischer yn Bencampwr Gwyddbwyll y Byd, yr unig Americanwr hyd yn hyn i wneud hynny, wrth guro Boris Spassky.
- 1985 – Bu farw Saunders Lewis; dramodydd, gwleidydd a thad Cymdeithas yr Iaith
- 2006 – Bu farw'r arlunydd Kyffin Williams
2 Medi: Diwrnod cenedlaethol Fietnam
- 31 CC – ymladdwyd Brwydr Actium, trobwynt a arweiniodd at ddiwedd Gweriniaeth Rhufain a dechrau'r Ymerodraeth Rufeinig.
- 1666 – cynheuwyd Tân Mawr Llundain.
- 1908 – sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru mewn cyfarfod yn Llangollen.
- 1929 – ganwyd yr actor Victor Spinetti yng Nghwm, Blaenau Gwent.
- 1973 – bu farw'r awdur J. R. R. Tolkien yn 81 oed.
3 Medi: Diwrnod annibyniaeth Catar (1971) a gŵyl genedlaethol San Marino
- 1741 – ganwyd Owain Myfyr, un o brif noddwyr llenyddiaeth Gymraeg
- 1868 – bu farw'r bardd a'r llenor John Prydderch Williams (Rhydderch o Fôn)
- 1927 – agorwyd Coleg Harlech gan Thomas Jones (1870-1955)
- 1933 – sefydlwyd Fine Gael, un o bleidiau gwleidyddol mwyaf Gweriniaeth Iwerddon
- 1939 – dechrau'r Ail Ryfel Byd - cyhoeddodd Ffrainc a'r Deyrnas Unedig ryfel yn erbyn yr Almaen.
4 Medi; Gŵyl Mabsant Santes Rhuddlad
- 1911 – ganwyd yr athronydd a'r awdur J. R. Jones ym Mhwllheli, awdur 'Prydeindod'
- 1934 – ganwyd Clive W. J. Granger yn Abertawe, enillydd Gwobr Economeg Nobel
- 1934 – Lloyd George, Prif Weinidog y DU yn cyfarfod Adolf Hitler yn Nyth yr Eryr, Bafaria
- 1989 – bu farw'r awdur o wlad Belg, Georges Simenon
- 1998 – ffurfiwyd Google gan ddau fyfyriwr, Larry Page a Sergey Brin
- 1287 – cwympodd Castell y Dryslwyn i'r Normaniaid
- 1820 – ganwyd y bardd a'r ysgrifwr Evan Jones (Ieuan Gwynedd)
- 1877 – bu farw Thasuka Witco ("Crazy Horse"), pennaeth llwyth brodorol y Lakota yng Ngogledd America
- 1927 – agorwyd Coleg Harlech, syniad Thomas Jones, Rhymni.
- 1997 – bu farw'r Fam Teresa, lleian ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel
6 Medi: Gŵyl mabsant Idloes; Diwrnod Annibyniaeth Eswatini (1968)
- 1869 – ganwyd y cerddor a'r cyfansoddwr Walford Davies
- 1917 – cyhoeddwyd Hedd Wyn, a laddwyd chwe wythnos ynghynt, yn enillydd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol
- 1936 – ganwyd un o'r bobl blaenaf yn yr ymgyrch dros adfywiad yr iaith Manaweg: Brian Stowell
- 1972 – ganwyd yr actor Idris Elba
- 2007 – bu farw y tenor Luciano Pavarotti
- 1548 – Bu farw Catrin Parr, chweched gwraig Harri VIII, brenin Lloegr
- 1812 – ymladdwyd Brwydr Borodino rhwng Ffrainc a Rwsia
- 1925 – ganwyd Laura Ashley, cynllunydd ffasiwn († 1986) yn Nowlais, Merthyr Tudful
- 1918 – bu farw Morfydd Llwyn Owen, cyfansoddwraig, pianydd a chantores, yn 26 oed
- 1994 – ganwyd Elinor Barker, seiclwraig o Gaerdydd
8 Medi: Diwrnod annibyniaeth Gogledd Macedonia (1991); diwrnod cenedlaethol Andorra; Dydd Gŵyl Cynfarch
- 1258 – cafodd byddin Cymru un o'i buddugoliaethau mwyaf, ym Mrwydr Cilgerran
- 1840 – ganwyd y bardd Thomas Evans (Telynog) yn Aberteifi
- 1921 – ganwyd y diddanwr Harry Secombe yn Abertawe
- 1936 – llosgwyd Ysgol Fomio ym Mhenyberth gan Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams
- 1966 – agorwyd Pont Hafren, y bont ffordd cyntaf dros aber Hafren
- 1969 – ganwyd Gary Speed, rheolwr a phêl-droediwr Cymreig.
- 1828 – ganwyd Lev Tolstoy, nofelydd († 1910)
- 1513 – bu farw Iago IV, Brenin yr Alban yn 40 oed
- 1901 – bu farw Henri de Toulouse-Lautrec 36, arlunydd
- 1966 – bu farw Elizabeth Watkin Jones, awdures llyfrau plant e.e. Luned Bengoch ac Y Cwlwm Cêl
- 2010 – ymddiswyddodd John Toshack ar 9 Medi 2010 ar ôl i Gymru golli yn erbyn Montenegro
10 Medi: Diwrnod cenedlaethol Gibraltar
- 1604 – bu farw William Morgan, cyfieithydd y Beibl
- 1797 – bu farw Mary Wollstonecraft, awdures, athronydd a dadleuwr dros hawliau merched
- 1915 – sefydlwyd y gangen gyntaf oll o Sefydliad y Merched yn Llanfair Pwllgwyngyll
- 1915 – ganwyd y bardd Geraint Bowen
- 1985 – bu farw Ernst Julius Opik, seryddwr a thaid Lembit Opik cyn-AS dros Faldwyn.
11 Medi: La Diada - Diwrnod Cenedlaethol Catalwnia; Gŵyl mabsant Deiniol
- 1297 – Brwydr Pont Stirling
- 1767 – bu farw Theophilus Evans, awdur Drych y Prif Oesoedd.
- 1878 – Trychineb Abercarn, 1878, y drydedd drychineb waethaf yng Nghymru pan laddwyd 268 o weithwyr
- 1977 – ganwyd y chwaraewr snwcer Matthew Stevens yng Nghaerfyrddin
- 2001 – ymosodiadau 11 Medi 2001 yn erbyn yr Unol Daleithiau, yn Efrog Newydd ac yn Washington
12 Medi: Diwrnod cenedlaethol Cabo Verde
- 490 CC – Brwydr Marathon
- 1906 – agorwyd Pont Gludo Casnewydd
- 1914 – ganwyd yr actor Desmond Llewelyn ym Metws, ger Casnewydd
- 2003 – enillodd Iwan Thomas y Fedal Aur ym Mhencampwriaethau'r Byd (Athletau) yn Ne Affrica.
- 2003 – bu farw'r cerddor Americaniadd Johnny Cash
- 1501 – dechreuodd Michelangelo ar ei gerflun Dafydd
- 1598 – bu farw Felipe II, brenin Sbaen, gŵr Mari Tudur
- 1898 – ganwyd Sam Jones, sefydlydd stiwdio'r BBC ym Mangor a rhaglenni fel Noson Lawen a Talwrn y Beirdd. Bu farw hefyd ar y diwrnod hwn ym 1974.
- 1916 – ganwyd Roald Dahl yn Llandaf
- 1975 – ailagorwyd Gorsaf reilffordd Llangollen
14 Medi: Gŵyl mabsant Ffinan a Thecwyn
- 1321 – bu farw'r bardd Dante Alighieri
- 1854 – ganwyd Hugh Evans, cyhoeddwr ac awdur
- 1916 – ganwyd y gwleidydd Cledwyn Hughes yng Nghaergybi
- 1943 – darlledwyd llais Wynford Vaughan Thomas a recordiwyd mewn awyren Lancaster ar y BBC yn disgrifio'r RAF yn bomio adeiladau a phobl a phlant Berlin.
- 1962 – dechreuodd Teledu Cymru (neu WWN) ddarlledu ar rwydwaith ITV i'r rhan fwyaf o Gymru, hyd at 1968
- 1982 – bu farw Grace Kelly, actores a thywysoges Monaco, wedi damwain car.
15 Medi: Diwrnod Rhyngwladol Democratiaeth; Ffair Fêl Conwy
- 1254 – ganwyd y fforiwr Marco Polo
- 1890 – ganwyd y nofelydd Agatha Christie
- 1967 – bu farw'r chwaraewr rygbi Rhys Gabe
- 1967 – bu farw Enid Wyn Jones ar awyren o Melbourne; is-Lywydd Cyngor Prydain o YWCA
- 2011 – lladdwyd pedwar o lowyr yn Nhrychineb Glofa'r Tarenni Gleision, yng Nghwm Tawe
16 Medi: Diwrnod Owain Glyn Dŵr
- 1387 – Ganwyd Harri V, brenin Lloegr, yn Nhrefynwy
- 1400 – Cyhoeddwyd Owain Glyn Dŵr yn dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy, gan ddechrau gwrthryfel yn erbyn coron Lloegr
- 1620 – Cychwynnodd llong y Mayflower ar ei thaith i'r Amerig
- 1915 – Sefydlwyd cangen cyntaf Sefydliad y Merched, yn Llanfairpwllgwyngyll.
- 1179 – bu farw'r lleian, diwynydd a chyfansoddwraig Hildegard von Bingen
- 1787 – arwyddwyd Cyfansoddiad Unol Daleithiau America
- 1811 – agorwyd y Cob ym Mhorthmadog gan William Alexander Madocks
- 1986 – bu farw'r cynllunydd ffasiwn o Gymraes Laura Ashley
- 2011 – cychwynnodd protestiadau Occupy Wall Street yn Efrog Newydd
- 1667 – bu farw'r bardd a chyfieithydd Rowland Vaughan Caer Gai, plwyf Llanuwchllyn
- 1939 – bu farw'r arlunydd Gwen John, arlunydd benywaidd gorau Cymru yn ôl rhai
- 1997 – cynhaliwyd Refferendwm sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- 2014 – cynhaliwyd Refferendwm annibyniaeth i'r Alban
19 Medi: Diwrnod Rhyngwladol Siarad fel Môr-leidr
- 1356 – Brwydr Poitiers rhwng Lloegr a Ffrainc
- 1759 – sefydlwyd Gwaith Haearn Dowlais, ger Merthyr Tudful
- 1980 – derbyniodd Johnny Owen ddyrnod farwol yn Los Angeles, wrth baffio yn erbyn Lupe Pintor
- 1985 – bu farw'r awdur Eidalaidd Italo Calvino awdur Y Barwn yn y Coed (Il barone rampante; 1957)
- 1992 – bu farw'r canwr opera Syr Geraint Evans
- 1486 – ganwyd y tywysog Arthur Tudur, mab hynaf Harri VII, brenin Lloegr (m. 1502)
- 1878 – ganwyd yr awdur Americanaidd Upton Sinclair (m. 1968)
- 1927 – ganwyd yr actores Rachel Roberts yn Llanelli (m. 1980)
- 1934 – ganwyd yr actores Sophia Loren yn Rhufain
- 1957 – bu farw y cyfansoddwr Jean Sibelius, 91
21 Medi: Diwrnod Rhyngwladol Heddwch
- 19 CC – bu farw'r bardd Rhufeinig Fyrsil
- 1586 – dienyddiwyd mab hynaf Catrin o Ferain, sef Thomas Salusbury (g. 1564)
- 1832 – bu farw y llenor o Albanwr, Walter Scott
- 1887 – ganwyd y llenor T. H. Parry-Williams yn Rhyd-Ddu, Arfon
- 1965 – darganfyddwyd olew wrth waelod Môr y Gogledd gan gwmni BP
22 Medi: Diwrnod annibyniaeth Bwlgaria (1908) a Mali (1960)
- 1837 – Ganwyd Thomas Charles Edwards, prifathro cyntaf Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, yn Llanycil, Gwynedd
- 1923 – Ganwyd Dannie Abse, bardd yn yr iaith Saesneg, yng Nghaerdydd
- 1934 – Trychineb Glofa Gresffordd, Wrecsam
- 1937 – Ganwyd Richard Marquand, cyfarwyddwr y ffilm Return of the Jedi yn y gyfres Star Wars, yng Nghaerdydd
- 1955 – Cyhoeddwyd Bannau Brycheiniog yn barc cenedlaethol
23 Medi: Diwrnod Dathlu Deurywioldeb
- 1215 – ganwyd Kublai Khan, ymerawdwr cyntaf Brenhinllin Yuan yn Tsieina
- 1793 – cyrhaeddodd John Evans, o'r Waunfawr, lwyth y Mandan yn nyffryn y Missouri
- 1846 – darganfuwyd y blaned Neifion
- 1939 – bu farw'r niwrolegydd a'r seicolegydd Sigmund Freud
- 1988 – bu farw'r cyfansoddwr Arwel Hughes
24 Medi: Diwrnod annibyniaeth Gini Bisaw oddi wrth Portiwgal (1973)
- 622 – cyrhaeddodd Muhammad Medina ar ôl ffoi o Mecca. Gelwir y daith hon yn Hijra.
- 1798 – daeth Gwrthryfel Gwyddelig 1798 i ben
- 1885 – bu farw y diwygiwr radicalaidd Samuel Roberts, Llanbrynmair
- 1933 – ganwyd Terry Davies, a enillodd 21 o gapiau'n chwarae rygbi dros Gymru
- 1936 – ganwyd y pypedwr Americanaidd Jim Henson
- 1987 – bu farw'r actor Emlyn Williams yn ei fflat yn Llundain.
25 Medi Gŵyl Mabsant Meugan (nawddsant teithwyr), Tyrnog a Caian
- 1066 – Brwydr Pont Stamford rhwng Harold Godwinson, brenin Lloegr, a Harald Hardrada, brenin Norwy.
- 1565 – Bu farw Rowland Meyrick, Esgob Bangor a ffigwr blaenllaw yn hanes y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru
- 1939 – Agorwyd yr ysgol Gymraeg cyntaf yng Nghymru, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, gyda Norah Isaac yn Brifathrawes
- 1969 – Ganwyd yr actores Catherine Zeta-Jones yn Abertawe
- 2000 – Bu farw'r bardd R. S. Thomas
- 1468 – ganwyd y cardinal o Sbaenwr Juan de Torquemada
- 1742 – ganwyd yr arlunydd Thomas Jones
- 1814 – bu farw Owen Jones (Owain Myfyr)
- 1888 – ganwyd y llenor Americanaidd T. S. Eliot
- 1924 – torrodd Malcolm Campbell record y byd am yrru ar gyflymder ar dir, ar draeth Pentywyn yn y car Sunbeam.
- 1995 – bu farw'r bardd Cymreig Lynette Roberts; bardd pwysica'r Ail Ryfel Byd yn ôl Patrick McGuinness.
- 1819 – daeth John Evans i olau dydd yn fyw wedi deuddeg diwrnod wedi'i gaethiwo o dan y ddaear
- 1904 – ganwyd y dramodydd John Gwilym Jones yn y Groeslon, Dyffryn Nantlle
- 1919 – bu farw'r gantores opera Adelina Patti yng Nghraig-y-nos, Powys
- 1943 – ganwyd y canwr a'r difyrrwr Max Boyce yng Nglyn-nedd
- 1746 – ganwyd yr ieithegwr William Jones
- 1836 – ganwyd y cerddor ac arlunydd Hugh Jerman yn Llanidloes
- 1842 – ganwyd William John Parry, prif sylfaenydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru
- 1898 – bu farw Thomas Gee, y cyhoeddwr o Ddinbych
- 2014 – bu farw'r bardd Dannie Abse
29 Medi: Gŵyl Fihangel yng Nghristnogaeth y Gorllewin: arferid taflu'r 'maen camp' (gw. y llun) ar y dydd hwn gan ddynion plwyf Eglwys Sant Mihangel, Efenechtyd, sir Ddinbych.
- 1267 – drwy Gytundeb Trefaldwyn cydnabu'r brenin Seisnig, Harri, mai Llywelyn ap Gruffudd oedd gwir Dywysog Cymru
- 1341 – ymladdwyd brwydr olaf Rhyfel Olyniaeth Llydaw, pan laddwyd Charles de Blois
- 1939 – ganwyd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru o 2000 i 2009, yng Nghaerdydd
- 1943 – ganwyd Lech Wałęsa, Arlywydd Gwlad Pwyl o 1990 i 1995
- 1961 – ganwyd Julia Gillard, Prif Weinidog Awstralia o 2010 i 2013, yn y Barri, Bro Morgannwg
30 Medi: Dydd Gŵyl Enghenedl Sant
- 1294 – dechreuodd gwrthryfel Madog ap Llywelyn a fabwysiadodd y teitl 'Tywysog Cymru' yn dilyn lladd Llywelyn ap Gruffudd
- 1402 – yn dilyn Gwrthryfel Glyn Dŵr pasiwyd Deddf yn Llundain a oedd yn atal Cymry rhag cario arfau, gwrando ar eu beirdd, ymgynull ayb
- 1791 – perfformiwyd yr opera Y Ffliwt Hud gan Wolfgang Amadeus Mozart am y tro cyntaf, yn Fienna, Awstria
- 1878 – bu farw Evan James (Ieuan ap Iago), tua 70, awdur geiriau Hen Wlad fy Nhadau
- 1904 – ganwyd y bardd Waldo Williams yn Hwlffordd, Sir Benfro (m. 1971)
|