Thomas Jones (arlunydd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Jones
Thomas Jones 1742–1803.jpg
Ganwyd 26 Medi 1742 Edit this on Wikidata
Powys Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Ebrill 1803 Edit this on Wikidata (60 oed)
Achos: Methiant y galon Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Wal yn Napoli Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Jones (26 Medi 174229 Ebrill 1803) yn arlunydd Cymreig ac yn ddisgybl i Richard Wilson. Fe'i ganed ym mhlwyf Cefn-llys, ym Maesyfed, Powys, ond cafodd ei fagu ym mhlas Pencerrig ger Llanelwedd. Ei lun enwocaf efallai yw Y Bardd (1774), llun sy'n crynhoi agweddau Rhamantaidd y cyfnod am orffennol "Gwyllt Walia".

Blynyddoedd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd ei rieni yn gobeithio y buasai'n cymryd Urddau Eglwysig ond roedd ei awydd i beintio'n rhy gryf. Cafodd ei anfon i Goleg Iesu, Rhydychen i astudio ar gyfer yr eglwys ond gadawodd yn 1761 i ddilyn gyrfa fel arlunydd. Daeth yn ddisgybl i Richard Wilson tra yn Llundain.

Yr Eidal[golygu | golygu cod y dudalen]

Thomas Jones a'i Deulu yn yr Eidal (Francesco Renaldi, 1797).

Fel y mwyafrif o artistiaid y cyfnod o wledydd Prydain, aeth ar daith i'r Eidal yn ei lencyndod er mwyn cael ei addysgu yn nhechnegau'r Hen Feistri. Tra yn Napoli a Rhufain gwnaeth gyfres o beintiadau olew o strydoedd anhysbys a waliau tu cefn, yn dra wahanol i'r tirweddau crand, confensiynol yr oedd peintwyr fel ei athro yn arbenigo ynddynt. Daeth i adnabod yr alunydd Seisnig o dras Eidalaidd Francesco Renaldi, a baentiodd lun o Thomas Jones gyda'i deulu. Cyfaill arall oedd yr arlunydd Giuseppe Marchi, a baentiodd bortread o Thomas Jones; dyma'r unig bortread o'r arlunydd sydd ar gael.

Ceir nifer o enghreifftiau o'i baentiadau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn Oriel Genedlaethol Llundain. Maent yn weithiau o flaen eu hamser ac ni welwyd ffresni o'r fath mewn tirluniau hyd nes ddyfodiad Camille Corot a pheintwyr yr ysgol Barbizon yn y 19g.

Pencerrig[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl treulio dwy flynedd ar bymtheg ar y cyfandir, dychwelodd Thomas Jones i fyw yn ei fro enedigol yn 1789. Mae ei luniau o ardal Pencerrig, sy'n dyddio o'r cyfnod olaf hwnnw yn ei oes, ymhlith ei orau.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.