Gary Speed
Gary Speed | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Gary Andrew Speed ![]() 8 Medi 1969 ![]() Mancot ![]() |
Bu farw | 27 Tachwedd 2011 ![]() Huntington ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed ![]() |
Taldra | 178 centimetr ![]() |
Gwobr/au | MBE ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Sheffield United F.C., Leeds United F.C., Newcastle United F.C., Everton F.C., Bolton Wanderers F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ![]() |
Safle | hanerwr asgell ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Rheolwr a phêl-droediwr Cymreig yn chwarae yng nghanol y cae oedd Gary Andrew Speed (8 Medi 1969 – 27 Tachwedd 2011). Bu'n gapten tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru hyd nes iddo ymddeol o'r gêm ryngwladol yn 2004.[1]
Ganed ef ym mhentref Mancot, Sir y Fflint, ac addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Penarlâg. Dechreuodd ei yrfa fel pêl-droediwr gyda Leeds United, yna symudodd i Everton ym 1996 am £5.5 miliwn. Daeth yn gapten Everton, ond symudodd i Newcastle United ym 1998. Symudodd eto i Bolton Wanderers a Sheffield United yn 2008. Penodwyd ef yn rheolwr Sheffield United ym mis Awst 2010 hyd Rhagfyr 2010. Ef oedd Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Cymru o Ragfyr 2010 tan ei farwolaeth.
Bu farw Speed yn ei gartref ym mhentref Huntington, Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr. Ar ddiwrnod ei farwolaeth, mynegodd cyfeillion a chydchwaraewyr iddo eu cydymdeimlad, ac yn eu plith: Robbie Savage, Ryan Giggs, Simon Grayson, Alan Shearer a John Hartson. Cynhaliwyd munud o dawelwch yn y gêm bêl-droed rhwng C.P.D. Abertawe ac Aston Villa F.C. ac fel arwydd o barch tuag ato, dechreuodd y dorf gymeradwyo.
Rhagflaenydd: Kevin Blackwell |
Rheolwr Sheffield United F.C. Awst 2010 – Rhagfyr 2010 |
Olynydd: Micky Adams |
Rhagflaenydd: John Toshack |
Prif Hyfforddwr Cymru Rhagfyr 2010 – Tachwedd 2011 |
Olynydd: Chris Coleman |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Szczepanik, Nick (27 Tachwedd 2011). "Gary Speed obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2011.