Robbie Savage

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Robbie Savage
RobbieSavage01.JPG
Ganwyd 18 Hydref 1974 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth pêl-droediwr, cyflwynydd chwaraeon Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Birmingham City F.C., Derby County F.C., Crewe Alexandra F.C., Manchester United F.C., Blackburn Rovers F.C., Leicester City F.C., Brighton & Hove Albion F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed Edit this on Wikidata
Safle canolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeon Cymru Edit this on Wikidata

Mae Robert William Savage (ganwyd 18 Hydref 1974) yn gyn-bêl-droediwr a sylwebydd o Gymru. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn chwarae yng nghanol cae, gan ddechrau yng ngharfan ieuenctid Manchester United cyn ymuno â Crewe Alexandria.

Chwaraeai yn gyson i Leicester City ar ddiwedd y 1990au a dechrau'r 2000au, ac yn ddiweddarach i Birmingham City a Blackburn Rovers. Ymunodd â Derby County F.C. yn 2008 ac, yn dilyn cyfnod byr ar fenthyg gyda Brighton & Hove Albion, dychwelodd i gapteinio Derby, gan orffen ei yrfa fel chwaraewr yno. Chwaraeodd i dim cenedlaethol Cymru 39 o weithiau. Mae bellach yn sylwebydd gyda'r BBC ac yn cyflwyno 606 yn rheolaidd ar BBC Radio 5 Live gyda'i gyd-sylwebydd Darren Fletcher.

Roedd Savage yn gystadleuydd, ac yn cyd-ddawnsio â'r ddawnswraig broffesiynol Ola Jordan, yn nawfed cyfres deledu Strictly Come Dancing yn 2011.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.