Adelina Patti

Oddi ar Wicipedia
Adelina Patti
Ganwyd19 Chwefror 1843 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Bu farw27 Medi 1919 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen, Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol, opera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano coloratwra, soprano Edit this on Wikidata
MamCaterina Barili Edit this on Wikidata
PriodErnesto Nicolini Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Diwylliant ac Addysg, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic Edit this on Wikidata

Cantores opera enwog o Sbaenes oedd Adelina Patti (10 Chwefror 184327 Medi 1919). Daeth yn hynod enwog ym myd cerddorol Llundain, Paris a dinasoedd mawr eraill fel un o sopranos opera mwyaf blaengar y cyfnod gyda'i llais bel canto. Roedd hi'n adnabyddus fel 'Madame Patti', "Brenhines y Gân". Ganwyd hi ym Madrid ar y pedwerydd-ar-bymtheg o Chwefror, 1843, i fam Eidalaidd a thad Sisilaidd.

Yn 1878 prynodd gastell ac ystad Craig-y-nos, yn y Fforest Fawr, Brycheiniog, i gael dianc i'r bryniau rhag y byd ffasiynol. Byddai'n dychwelyd i Gastell Craig-y-nos ar ddiwedd pob taith o gwmpas tai opera mawr y byd, yn Ewrop ac America.

Ym 1877 ysgrifennodd Giuseppe Verdi mai Patti oedd y gantores orau a fu erioed.[1] Ym 1862, tra ar daith o'r Unol Daleithiau, canodd gân John Howard Payne - Home, Sweet Home yn y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Abraham Lincoln a'i wraig Mary Lincoln. Ar y pryd roeddent mewn galar wedi iddynt golli eu mab Willie a fu farw o'r teiffoid. Roedd dagrau'n powlio i lawr eu gruddiau a mynnent ei bod yn canu'r gân eilwaith. Am flynyddoeddd wedi hynny cysylltwyd y gân â Lincoln.

Recordiadau[golygu | golygu cod]

(Cyfansoddiad gan Luigi Arditi); llais Adelina Patti ym 1906

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Tua 1890 y recordiodd ei chân gyntaf - ar gyfer Thomas Marshall yn Efrog Newydd. Collwyd y rhain dros y blynyddoedd.

Recordiodd dros 30 record gramaffôn o arias operatig a chaneuon eraill a cheir un recordiad o'i llais yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda i'w gŵr, yn 1905 a 1906. Ceir 'tril' yn ei llais, hyd yn oed heddiw, a gallwn ddeall yn iawn pam ei bod, yn ei hanterth yn ennill $5,000 y noson.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Frederick Cone; William R. Moran (November 1993). Adelina Patti: queen of hearts. Amadeus Press. t. 129. ISBN 978-0-931340-60-4. Cyrchwyd 22 September 2013.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: