Rowland Meyrick
| Rowland Meyrick | |
|---|---|
| Ganwyd | 1505 |
| Bu farw | 1566 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd |
| Swydd | Esgob Bangor |
| Tad | Meurig ap Llywelyn |
| Mam | Margred ferch Rowland ap Hywel ap Gruffudd |
| Priod | Catherine Barrett |
| Plant | Gelli Meyrick, Sir Francis Meyrick, Francis Meyrick, Gilly Meyrick |
Clerigwr o Ynys Môn a ddaeth yn Esgob Bangor oedd Rowland Meyrick (1505 - 25 Medi 1565). Bu ganddo ran flaenllaw yn hanes y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Meyrick ym Modorgan, ym mhlwyf Llangadwaladr, Ynys Môn yn ail fab Meurig (Meyric) ap Llywelyn o blas Bodorgan a Margaret ferch Rowland ap Hywel, rheithor Aberffraw, rywbryd yn 1505. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen, lle daeth i arddel y ffydd Brotestannaidd newydd. Cafodd ei enwi ar ôl ei daid ar ochr ei fam, ac, yn ôl Wood, addysgwyd ef 'yn Ysgol Sant Edward (Rhydychen), lle nodedig i sifiliaid, lle derbyniodd radd B.C.L. ar 9 Rhagfyr 1531, a gradd D.C.L. ar 17 Chwefror 1537-8. Bu'n brifathro Neuadd New Inn o 1534 i 1536.[1] Yn 1541 cafodd 'ddyrchafiad' i Eglwysael, a chafodd ei wneud hefyd yn arweinydd canu Llanddewi Efelffre, Sir Benfro.
Yn 1544, yn nheyrnasiad Harri VIII o Loegr, cafodd reithoriaeth Stoke-by-Nayland yn Norfolk, ond symudodd yn ôl i Gymru yn fuan wedyn lle cafodd swydd yn rheithoriaeth Llanddewi Brefi. Treuliodd gyfnod fel canghellor Tyddewi a Wells, Gwlad yr Haf. Rhoddodd yr ail swydd heibio ac yn 1550 cofnodir ei fod yn ganghellor Esgobaeth Tyddewi, yn ganon Llanddewi Brefi ac yn rheithor ei blwyf enedigol, Llangadwaladr, Môn.[2]
Yn 1554 priododd Catherine ferch Owen Barret, un o uchelwyr Sir Benfro. Bu rhaid iddo ymddiswyddo oherwydd cyhuddiadau yn ei erbyn. Pan ddaeth Elisabeth I o Loegr i'r orsedd fe'i apwyntiwyd yn un o'r comisynwyr i arolygu eglwysi cadeiriol ac esbobaethau Cymru a'r Mers, sef Tyddewi, Llandaf, Llanelwy, Henffordd a Chaerloyw.[2]
Cafodd ei benodi yn Esgob Bangor gan Elisabeth I a'i urddo yn y swydd ar 21 Rhagfyr 1559, yn 54 oed. Fe'i apwyntiwyd i Gyngor y Mers hefyd. Bu farw ar y 25 Medi 1565.
Fe'i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol Bangor gan adael ar ôl ei weddw, pedwar mab a dwy ferch.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dictionary of National Biography; cyfrol 37; tud 335
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Robert Williams, Enwogion Cymru (Llanymddyfri, 1852).