Betws, Casnewydd
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 7,606, 8,296 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Casnewydd |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 513.66 ha |
Cyfesurynnau | 51.609°N 3.028°W |
Cod SYG | W04000811 |
Cod OS | ST289905 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jayne Bryant (Llafur) |
AS/au | Jessica Morden (Llafur) |
- Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).
Cymuned yn ninas Casnewydd, Cymru, yw Betws. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 8,257.[1]
Saif i'r gogledd-orllewin o ganol y ddinas. Ar y ffîn rhwng y gymuned yma a chymuned Tŷ-du mae 14 llifddor cangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy. Adeiladwyd y llifddorau hyn yn 1799, ac maent yn codi'r gamlas 51 medr mewn pellter o ddim ond 0.8 km.
Gelwir yr ardal o gwmpas cronfeydd dŵr Ynysfro yn "Swistir Fach". Honnir i John Frost, Siartydd briodi yn Eglwys y Santes Fair yn 1812.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Jessica Morden (Llafur).[2][3]
Yn yr etholiadau cyntaf i ethol Comisiynydd yr heddlu ar gyfer Heddlu Gwent yn Nhachwedd 2012, mae'n debyg na wnaeth neb bleidleisio yno o gwbl drwy'r orsaf bleidleisio.[4]
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ [Gwyddoniadur Cymru Gwasg Prifysgol Cymru 2008]
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "BBC Cymru adalwyd 18 Tachwedd 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-12. Cyrchwyd 2021-02-19.