Evan Jones (Ieuan Gwynedd)

Oddi ar Wicipedia
Evan Jones
FfugenwIeuan Gwynedd Edit this on Wikidata
Ganwyd5 Medi 1820 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw23 Chwefror 1852 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
MamCatherine Jones Edit this on Wikidata
Y Gymraes; 1850-1852

Bardd, awdur ysgrifau a newyddiadurwr Cymreig oedd Evan Jones (5 Medi 182023 Chwefror 1852), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Ieuan Gwynedd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Ieuan Gwynedd yn nhyddyn Bryntynoriad ar ochr y Garneddwen yn Rhydymain, ger Dolgellau, Meirionnydd (de Gwynedd) yn 1820. Yn y Tŷ Croes ychydig yn is i lawr i gyfeiriad Dolgellau, y treuliodd ei febyd. Yn 1837 aeth oddi cartref i gawd ysgol yn Aberhonddu a bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Nhredegar, yn yr hen Sir Fynwy am gyfnod. Priododd Catherine Sankey, o Swydd Amwythig, tra yn Nhredegar, ond bu farw hithau a'u plentyn yn ifanc. Gadawodd ei eglwys ac ymroddodd i lenyddiaeth a newyddiaduriaeth. Gweithiodd fel golygydd papurau newydd radicalaidd yn Llundain (The Standard of Freedom) a de Cymru (Y Gymraes, Yr Adolygydd). Priododd am yr ail dro a Rachel Lewis o Dredwstan. Ond dirywiodd ei iechyd yntau trwy ormod llafur a bu farw yn 31 oed ar fore Chwefror 23, 1852, yng Nghaerdydd.[1] Chafodd ei gladdu yn fynwent Capel Methodistaidd Groeswen.Mae'r atgof eitha crand yn bodoli yn y fynwent heddiw.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Mae ei waith llenyddol yn cynnwys nifer o ysgrifau ac erthyglau ar bynciau fel dirwest ac anghydffurfiaeth a bu'n un o'r rhai a ymatebodd yn chwyrn i'r "enllib" ar foes y Cymry a defnyddioldeb yr iaith Gymraeg a geir yn y Llyfrau Gleision (1847). Saesneg oedd iaith nifer o'r ysgrifau am eu bod wedi eu hanelu at y Saeson yn bennaf, i amddiffyn anrhydedd Cymru a'r Gymraeg.[1]

Cyfansoddodd nifer o gerddi ar y mesurau caeth a rhydd hefyd, yn cynnwys yr awdl 'Adgyfodiad' a fu'n fuddugol yn yr Eisteddfod.[1]

Bu'n olygydd y papur Yr Adolygydd a'r Gymraes.

Dylanwad a chof[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd y 19g daeth yn un o arwyr gwladgar mudiad Cymru Fydd, diolch i waith Owen M. Edwards ac eraill yn dod a'i waith i sylw'r cyhoedd.

Mae'r ysgol gynradd yn Rhyd-y-main wedi ei henwi ar ei ôl, sef Ysgol Ieuan Gwynedd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • A Vindication of the Educational and Moral Conditions of Wales (1848)
  • Bywyd Ieuan Gwynedd, ganddo ef ei hun (Cyfres y Fil, Caernarfon, 1900). Ysgrifau hunangofianol, detholiad o gerddi ac ysgrifau eraill, golygwyd gan O. M. Edwards.

Ceir casgliad o ysgrifau wedi eu golygu gan Brinley Rees (Cyfres Llyfrau Deunaw, 1957).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Bywyd Ieuan Gwynedd (1900).
  2. "- YouTube". www.youtube.com. Cyrchwyd 2022-06-18.