Rachel Roberts

Oddi ar Wicipedia
Rachel Roberts
Ganwyd20 Medi 1927 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw26 Tachwedd 1980 Edit this on Wikidata
o gorddos o gyffuriau Edit this on Wikidata
Hollywood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
TadRichard Rhys Roberts Edit this on Wikidata
PriodRex Harrison, Alan Dobie, Rex Harrison Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Rhan Gynhaliol, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr Theatr yr Evening Standard am yr Actores Orau Edit this on Wikidata

Actores o Gymraes oedd Rachel Roberts (20 Medi 192726 Tachwedd 1980).

Cafodd ei geni yn Llanelli, yn ferch i weinidog gyda'r Bedyddwyr. Gwrthryfelodd yn erbyn ei thad yn ifanc. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna yn RADA. Gwnaeth ei marc fel actores pan gymerodd ran yn y ffilm Saturday Night and Sunday Morning. Priododd Alan Dobie (1955–1961) yn gyntaf ac yna rhwng 1962 a 1971 bu'n briod i'r actor Rex Harrison. Wedi ei phriodas i Harrison cafodd iselder meddwl, gan na fedrai gael plant na rhan actio.

Derbyniodd Wobr yr Academi Ffilm Prydeinig am ei rhan yn actio Brenda yn ffilm Karel Reisz Saturday Night and Sunday Morning (1960).[1] Ac am ei rôl fel Mrs Hammond yn This Sporting Life (1963), derbyniodd BAFTA ac enwebwyd hi am Oscar.

Cyflawnodd hunanladdiad yn ei chartref yn Los Angeles ar 26 Tachwedd 1980 drwy lyncu cemegolion a chyffuriau.[2]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig. John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines a Peredur Lynch (2008) p. 769 ISBN 978-0-7083-1953-6
  2. "Rachel Roberts Ruled a Suicide". The New York Times. 1981-01-06. Cyrchwyd 2008-08-17.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.