Walford Davies

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cerddor a chyfansoddwr oedd Syr Henry Walford Davies (6 Medi, 186911 Mawrth, 1941) a oedd yn adnabyddus i lawer a wrandawai arno’n darlledu am gerddoriaeth ar y radio.

Bywyd a gwaith[golygu]

Ganed Walford Davies yng Nghroesoswallt, Lloegr.

Gyrfa academaidd[golygu]

Ymunodd â chôr Capel Sant Sior, Windsor pan yn 12 oed, lle y bu yn astudio ac yna’n cynorthwyo yr organydd Syr Walter Parratt. Aeth oddi yno yn 1890 i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol. By’n athro gwrthbwynt yn y coleg o 1895 hyd at 1903.

O 1919 hyd at 1926 bu’n athro cerdd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu’n weithgar yn hybu cerddoriaeth Gymreig yn ei swydd fel cadeirydd Cyngor Genedlaethol Cerddoriaeth Cymru a ddaliodd o 1919 hyd at ei farw.

Cerddor a Chyfansoddwr[golygu]

Bu’n organydd mewn nifer o eglwysi gan gynnwys Eglwys Temple, Llundain a Chapel Sant Sior, Windsor. Bu’n gyfarwyddwr cerdd mewn sawl man gan gynnwys bod yn gyfarwyddwr cerdd i’r Awyrlu Brenhinol ac yn arweinydd Côr Bach.

Cyfansoddodd Walford Davies weithiau ar gyfer cerddorfeydd, bandiau pres, corau ac unawdwyr. Gweithiau crefyddol oedd y mwyafrif o’i gyfansoddiadau.

Darlithydd a darlledwr[golygu]

Yn y 1920’au dechrewyd gyhoeddi recordiau o ddarlithoedd Walford Davies ar fiwsig. O 1926 hyd at 1939 bu’n darlledu ar bwnc miwsig clasurol ar wasanaeth radio y BBC. Oherwydd y gwaith radio yma y daeth yn adnabyddus i lawer.

Anrhydeddau[golygu]

Gweithiau[golygu]

Detholiad o’i gyfansoddiadau[golygu]

  • Everyman (oratorio)
  • O Little Town of Bethlehem (trefniant)
  • RAF March Past (ymdaith i fand pres)
  • Solemn Melody (ar gyfer cerddorfa ac organ)

Llyfrau[golygu]

  • The Pursuit of Music (1935)

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Walford Davies & the National Council of Music, 1918 – 1941 gan David Ian Allsobrook
  • A Forgotten Organist gan Kenneth Shenton (1992)
  • The Oxford Companion to Music gan Percy Scholes
  • Letters of Frederic Rothwell (1900)
  • Music & Letters gan HC Colles (1941)

Llyfryddiaeth ar y we[golygu]

Prif ffynonellau yr erthygl[golygu]

  • en:Walford Davies
  • Y Bywgraffiadur Cymreig 1941 - 1950 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)