Wicipedia:Ar y dydd hwn/22 Mawrth
Gwedd
22 Mawrth: Diwrnod Dŵr y Byd; gwylmabsant Elwad
- 1312 – cyhoeddodd y Pab Clement V fwl i ddiddymu Urdd y Deml.
- 1599 – ganwyd yr arlunydd Antoon van Dyck yn Antwerp, Fflandrys (heddiw yng Ngwlad Belg).
- 1693 – ganwyd y bardd, y golygydd a'r cyfieithydd Hugh Hughes, a adnabyddir hefyd fel 'Y Bardd Coch o Fôn', ym mhlwyf Llandyfrydog, Ynys Môn.
- 1895 – dangoswyd ffilm i'r cyhoedd am y tro cyntaf, ym Mharis.
- 1963 – lansiwyd albwm cyntaf The Beatles, Please Please Me.
|