Wicipedia:Ar y dydd hwn/8 Gorffennaf
Gwedd
- 1557 – sefydlwyd Ysgol Friars, Bangor, un o ysgolion hynaf Cymru
- 1721 – bu farw Elihu Yale, a roes ei enw i Brifysgol Yale yn yr Unol Daleithiau; fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys San Silyn, Wrecsam
- 1836 – ganwyd Joseph Chamberlain, gwleidydd
- 1859 – bu farw John Thomas (Siôn Wyn o Eifion), bardd ac emynydd
- 1958 – cychwynnodd Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad yng Nghaerdydd
|