John Thomas (Siôn Wyn o Eifion)
John Thomas | |
---|---|
Ffugenw | Siôn Wyn o Eifion |
Ganwyd | 17 Medi 1786 Chwilog |
Bu farw | 8 Gorffennaf 1859 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd ac emynydd o Chwilog, Eifionydd oedd John Thomas (17 Medi 1786 – 8 Gorffennaf 1859), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Siôn Wyn o Eifion.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Siôn Wyn ym mhwlyf Chwilog yn 1786. Cafodd ddamwain yn fachgen naw oed a ddilynwyd o fewn tair blynedd gan gyfnod hir o waeledd a bu'n wael ei iechyd am weddill ei oes. Cafodd ei addysg yn ysgol Llanarmon lle daeth i adnabod David Owen (Dewi Wyn o Eifion).[1]
Oherwydd ei iechyd bregus, caethiwid y bardd ifanc i'w wely am gyfnodau hir, ond derbynnai nifer o ymwelwyr o blith llenorion yr hen Sir Gaernarfon a darllenodd yn helaeth. Yn ogystal â Dewi Wyn, ei gyfaill am oes, daeth yn gyfaill i Ddafydd Ddu Eryri. Derbyniodd lawer o garedigrwydd oddi wrth teulu Nannau hefyd.[1]
Cyfansoddodd gryn lawer o farddoniaeth, yn awdlau, pryddestau ac emynau, ond er iddo ennill gydnabyddiaeth gan ei gyd-lenorion nid enillodd wobr yn yr Eisteddfod. Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith barddonol gan Robert Isaac Jones (Alltud Eifion), Tremadog yn 1861, dwy flynedd ar ôl marwolaeth Siôn Wyn.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Siôn Wyn o Eifion, Gwaith Barddonol Siôn Wyn o Eifion (Tremadog, 1861). Cyfrol sy'n cynnwys cofiant i'r bardd gan ei nai William Jones (Bleddyn).