David Owen (Dewi Wyn o Eifion)

Oddi ar Wicipedia
David Owen
Dewi Wyn o Eifion, portread olew gan William Roos.
FfugenwDewi Wyn o Eifion Edit this on Wikidata
GanwydMehefin 1784 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ionawr 1841 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ffermwr Edit this on Wikidata
Y Gaerwen, cartref Dewi Wyn
Capel y Beirdd ger Rhoslan, Cricieth; lle mynychodd Dewi Wyn, ddiwedd ei oes.

Ffermwr a bardd Cymreig oedd David Owen , sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Dewi Wyn o Eifion (Mehefin 178417 Ionawr 1841).

Bywyd a gwaith[golygu | golygu cod]

Ganed yn ffermdy'r Gaerwen ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd. Addysgwyd mewn ysgolion preifat yn nifer o'r penrefi cyfagos, ac am gyfnod byr ym Mangor Is Coed.

Bu'n ffermio yn y Gaerwen am y rhan fwyaf o'i oes, er iddo symud i fyw i Bwllheli o 1827 hyd 1837, daliodd ei afael yn y fferm. Dyswgwyd ef i farddoni gan Robert ap Gwilym Ddu, o fferm gyfagos y Betws Fawr. Enillodd fedal Cymdeithas y Gwyneddigion am awdl Molawd Ynys Brydain ac yn 1811 enillodd wobr eisteddfod Tremadog am Awdl i Amaethyddiaeth. Yn 1819 cystadlodd yn eisteddfod Dinbych ar Awdl Elusengarwch. Collodd y wobr, ac ni fu'n cystadlu eto. Ystyrir yr awdl yma yn un o'i weithiau gorau, ynghyd a'i englynion i Bont Menai (1832). Cyhoeddwyd ei farddoniaeth a chofiant iddo dan y teitl Blodau Arfon yn 1842. Ail-gyhoeddwyd detholiad o'i waith yng Nghyfres y Fil yn 1906.

Dyfyniadau[golygu | golygu cod]

Uchelgaer uwch y weilgi - gyr y byd
Ei gerbydau drosti,
Chwithau holl longau y lli
Ewch o dan ei chadwyni .
(Pont y Borth)[1]
Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rhoi angen un rhwng y naw.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Blodau Arfon (1842)
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.