Wicipedia:Ar y dydd hwn/19 Ionawr
Gwedd
- 1810 – ganwyd y bardd John Jones (Talhaiarn), yn Llanfair Talhaearn
- 1852 – ganwyd Tom Price, a ddaeth yn brif weinidog De Awstralia, ym Mrymbo ger Wrecsam
- 1881 – bu farw'r bardd a'r beirniad llenyddol John Roose Elias, brodor o Fryn-du, Ynys Môn
- 1937 – dedfrydwyd D. J. Williams, Lewis Valentine a Saunders Lewis i naw mis o garchar yn yr Old Bailey, Llundain
- 1969 – bu farw'r myfyriwr Tsiecaidd Jan Palach, tridiau wedi iddo roi ei hun i ar dân ym Mhrag mewn protest yn erbyn goresgyniad ei wlad gan luoedd Cytundeb Warsaw, yn sgîl Gwanwyn Prag
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||