Wicipedia:Ar y dydd hwn/16 Mehefin
Gwedd
16 Mehefin; Dydd Gŵyl y seintiau Curig ac Ishmael.
- 1282 – ym Mrwydr Llandeilo Fawr, trechwyd byddin o Saeson gan wŷr y Deheubarth a oedd yn driw i Lywelyn ap Gruffudd
- 1487 – Harri VII, brenin Lloegr, yn ennill y Brwydr Maes Stoke, brwydr diwethaf y Rhyfeloedd y Rhosynnau
- 1976 – ganwyd Cian Ciarán, aelod o'r Super Furry Animals
- 1902 – ganwyd y bardd a'r dramodydd Cymraeg James Kitchener Davies, awdur y bryddest Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu
- 2020 – bu farw Mohammad Asghar, y Mwslim cyntaf i gael ei ethol i'r Cynulliad.
|