Wicipedia:Ar y dydd hwn/Rhagfyr
1 Rhagfyr: Dydd gŵyl y seintiau Tudwal a Llechid. Diwrnod Rhyngwladol AIDS
- 1081 – ganwyd Louis VI, brenin Ffrainc (m. 1137)
- 1135 – bu farw Harri I, brenin Lloegr (g. c.1068)
- 1413 – claddwyd Catrin ferch Owain Glyn Dŵr a'i merched ym mynwent Eglwys Sant Switan, Llundain
- 1918 – diwrnod annibyniaeth Gwlad yr Iâ oddi wrth Denmarc
- 1948 – ganwyd Geraint Davies, cyn-Aelod Cynulliad dros y Rhondda
2 Rhagfyr: Gwyliau cenedlaethol yr Emiradau Arabaidd Unedig a Laos; Dydd Gŵyl Grwst (tradd.)
- 1886 – agorwyd Twnnel Hafren i deithwyr trên
- 1898 – bu farw Michael D. Jones, 76, sefydlydd Y Wladfa ym Mhatagonia
- 1941 – ganwyd Mike England yn Nhreffynnon; chwaraewr a Rheolwr pêl-droed Cymru
- 1988 – daeth Benazir Bhutto yn Brif Weinidog Pacistan, y tro cyntaf i wraig arwain llywodraeth gwlad ag iddi fwyafrif Islamaidd
- 2000 – bu farw Rosemarie Frankland, enillydd: Miss Cymru, Miss DU a Miss Byd (1961).
3 Rhagfyr: Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anabledd; Dydd Gŵyl Cristiolus
- 1857 – ganwyd y nofelydd o Wlad Pwyl Joseph Conrad (Teodor Józef Konrad Korzeniowski)
- 1883 – ganwyd y cyfansoddwr o Awstria Anton Webern
- 1894 – bu farw y nofelydd o'r Alban Robert Louis Stevenson
- 1931 – cyhoeddwyd Llyfr Mawr y Plant gan J. O. Williams a Jennie Thomas (cyh: Hughes a'i Fab, Wrecsam)
- 1955 – sefydlwyd Undeb Amaethwyr Cymru mewn cyfarfod yng Nghaerfyrddin
- 1131 – bu farw Omar Khayyam, bardd
- 1214 – bu farw Gwilym I, brenin yr Alban
- 1926 – ganwyd y bardd Aled Rhys Wiliam
- 1967 – trawsblanwyd calon dynol am y tro cyntaf gan Dr Christiaan Barnard yn Ne Affrica.
- 1977 – Cwpan y Byd Dartiau yn cael ei chynnal am y tro cyntaf a Chymru'n ennill, diolch i Leighton Rees.
5 Rhagfyr: Dydd Gŵyl Sant Cawrdaf
- 1771 – cyfarfod cyntaf y Gwyneddigion gydag Owain Myfyr yn llywyddu
- 1791 – bu farw'r cyfansoddwr Wolfgang Amadeus Mozart
- 1849 – bu farw'r bardd Walter Davies (Gwallter Mechain)
- 1901 – ganwyd y cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilmiau Walt Disney
- 1967 – ganwyd y bardd Ceri Wyn Jones
6 Rhagfyr: Gŵyl Sant Nicolas (Cristnogaeth); Diwrnod annibyniaeth Y Ffindir (1917)
- 343 – bu farw Sant Nicolas, esgob Groegaidd a arferai rannu anrhegion i'r tlawd.
- 1421 – ganwyd Harri VI, brenin Lloegr; ei fam oedd Catrin o Valois a briododd Owain Tudur yn 1429.
- 1882 – bu farw Anthony Trollope, nofelydd, 67 oed.
- 1921 – arwyddwyd y Cytundeb Eingl-Wyddelig a arweiniai at sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon flwyddyn union yn ddiweddarach
- 1977 – lansiwyd cwmni Awyr Cymru o Faes Awyr Caerdydd a daeth i ben 18 mis yn ddiweddarach.
7 Rhagfyr: Diwrnod Dathlu Hawliau'r Gymraeg
- 1804 – bu farw'r Cymro Morgan John Rhys, ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth, yn Somerset, Pennsylvania
- 1916 – etholwyd David Lloyd George yn brif weinidog y Deyrnas Unedig
- 1941 – ymosododd lluoedd Siapan ar Pearl Harbor, Hawaii
- 1985 – bu farw Robert Graves, 90, bardd, nofelydd a chyfaill Wilfred Owen
8 Rhagfyr - Gŵyl Mabsant Cynidr (6g); Diwrnod Cenedlaethol Corsica
- 1542 – ganwyd Mari, brenhines yr Alban
- 1760 – ganwyd Morgan John Rhys yn Llanbradach: un o gefnogwyr y Chwyldro Ffrengig
- 1865 – ganwyd y cyfansoddwr o'r Ffindir Jean Sibelius
- 1978 – bu farw Golda Meir, Cyn-brif Weinidog Israel (rhwng 17 Mawrth 1969 a 3 Mehefin 1974)
- 1980 – bu farw'r cerddor Seisnig John Lennon
- 536 – cipiwyd Rhufain gan y cadfridog Belisarius
- 1165 – bu farw Malcolm IV, brenin yr Alban, yn 24 oed
- 1895 – ganwyd Lancelot Thomas Hogben, sŵolegydd arbrofol ac ystadegydd meddygol; m. 79 oed yn Wrecsam
- 1919 – ganwyd Meredydd Evans, canwr gwerin ac ymgyrchydd dros y Gymraeg
- 1941 – benywod yn cael eu galw i ymuno â byddin y Deyrnas Gyfunol am y tro cyntaf
- 2019 – fe ffrwydrodd y llosgfynydd ar Ynys Wen, Seland Newydd, gan ladd llawer o dwristiaid
10 Rhagfyr: Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol
- 1198 – bu farw'r athronydd o Al-Andalus (Andalucía fodern), Averroes (Ibn Rushd)
- 1610 – dienyddiwyd y merthyr Catholig Cymreig John Roberts yn Tyburn, ger Llundain
- 1631 – bu farw Syr Hugh Myddelton, Dinbych, y gŵr a greodd system ddŵr Llundain
- 1815 – ganwyd Ada Lovelace; ystyrir mai hi oedd y rhaglennydd cyfrifiaduron cyntaf
- 1896 – bu farw'r cemegydd o Sweden Alfred Nobel, sylfaenydd Gwobrau Nobel
- 1948 – mabwysiadwyd Datganiad Cyffredinol am Hawliau Dynol gan Gyngor Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
11 Rhagfyr: Dydd Gŵyl y seintiau Cian, Peris a Fflewyn
- 1282 – bu farw'r Tywysog Llywelyn ein Llyw Olaf
- 1779 – bu farw Bridget Bevan o Dalacharn, noddwraig yr Ysgolion Cylchynol Cymreig
- 1803 – ganwyd y cyfansoddwr Ffrengig Hector Berlioz
- 1929 – ganwyd awdur Y Dydd Olaf, Owain Owain, un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith
- 1964 – bu farw'r canwr Americanaidd Sam Cooke
12 Rhagfyr: Diwrnod annibyniaeth Cenia (1963)
- 1595 – bu farw'r milwr o Gymro Syr Roger Williams
- 1798 – bu farw'r awdur, naturiaethur ac hynafiaethydd Thomas Pennant
- 1821 – ganwyd y nofelydd o Ffrancwr Gustave Flaubert
- 1863 – ganwyd yr arlunydd Norwyaidd Edvard Munch
- 1979 – llosgi'r tŷ haf cyntaf yn ymgyrch Meibion Glyndŵr
- 1545 – cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cyngor Trent, fel rhan o ymateb yr Eglwys Gatholig i'r Diwygiad Protestannaidd
- 1797 – bu farw'r bardd Almaenig Heinrich Heine
- 1925 – ganwyd Dick Van Dyke, actor a chomedïwr
- 1974 – daeth Malta yn Weriniaeth gan dorri ei chysylltiad gyda brenhiniaeth Lloegr
- 2018 – daeth Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru.
14 Rhagfyr: Diwrnod y Mwnci
- 1799 – bu farw George Washington, arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau
- 1884 – ganwyd y casglwr celf o Gymraes Margaret Davies
- 1911 – daeth Roald Amundsen y dyn cyntaf i gyrraedd Pegwn y De
- 1918 – merched yn cael pleidleisio am y tro cyntaf mewn Etholiad Cyffredinol yng ngwledydd Prydain
- 1917 – bu farw Philip Dudley Waller, chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru.
- 1757 – bu farw'r bardd Eingl-Gymreig John Dyer
- 1847 – bu farw'r awdur o Gaerllion Arthur Machen
- 1932 – ganwyd y cemegydd John Meurig Thomas yn y Tymbl, Sir Gaerfyrddin
- 1952 – bu farw'r arlunydd o Gaerdydd William Goscombe John
- 1969 – creu Abertawe yn ddinas
- 1485 – ganwyd Catrin o Aragón, gwraig gyntaf Harri VIII, brenin Lloegr
- 1775 – ganwyd y nofelydd Seisnig Jane Austen
- 1784 – ganwyd Mari Jones, a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas y Beibl yn ôl traddodiad pan gerddodd dros 26 milltir i'r Bala i brynu Beibl
- 1905 – Curodd Cymru'r Crysau Duon 3-0 ym Mharc yr Arfau
- 1956 – bu farw'r arlunydd o Gymraes Nina Hamnett
17 Rhagfyr: Gŵyl mabsant Tydecho
- 497 CC – Gŵyl cyntaf Saturnalia
- 1600 – priodas Harri IV, brenin Ffrainc, a Marie de' Medici
- 1903 – hediad cyntaf gan awyren trymach nag awyr, gan y brodyr Wright
- 1915 – bu farw'r ysgolhaig Cymraeg a Cheltaidd Syr John Rhŷs
- 1923 – cyhoeddodd Gwasg Gregynog eu cyfrol gyntaf (Poems gan George Herbert), dan ofal Margaret a Gwendoline Davies.
- 1818 – ganwyd David Davies (Llandinam) AS a pherchennog pyllau glo'r Parc, Treorci a Maendy
- 1826 – bu farw Iolo Morganwg yn 80 oed; llenor a hynafiaethydd
- 1843 – bu farw Dic Aberdaron, "ieithmon a Chathmon" chwedl T. H. Parry-Williams
- 1865 – diddymwyd caethwasiaeth yn UDA pan gadarnhawyd 13 Gwelliant i'r Cyfansoddiad gan ddwy ran o dair o'r taleithiau.
- 1878 – ganwyd Joseff Stalin (m. 5 Mawrth, 1953); gwleidydd ac unben Sofietaidd
- 1910 – ganwyd Amy Parry-Williams, cantores ac awdures, ym Mhontyberem, Caerfyrddin.
- 1848 – bu farw Emily Brontë, nofelydd yn yr iaith Saesneg
- 1851 – bu farw'r arlunydd Seisnig Joseph Mallord William Turner
- 1906 – ganwyd y gwleidydd Rwsiaidd Leonid Brezhnev
- 1915 – ganwyd y gantores Ffrengig Édith Piaf
- 1925 – bu farw Elizabeth Phillips Hughes, addysgwraig blaenllaw dros addysg Gymreig, unigryw i bobl Cymru
- 1843 – ganwyd y ferch gyntaf yng Nghymru, a'r ail drwy Ewrop i raddio mewn meddygaeth: Frances Elizabeth Morgan
- 1858 – ganwyd yr ysgolhaig Celtaidd Kuno Meyer yn Hamburg
- 1899 – ganwyd Martyn Lloyd-Jones, gweinidog, meddyg ac awdur, yn Llangeitho (m. 1981)
- 1926 – ganwyd y gwleidydd Ceidwadol Geoffrey Howe ym Mhort Talbot (m. 2015)
- 1955 – cyhoeddwyd Caerdydd yn brifddinas Cymru
- 1375 – Bu farw'r llenor Eidalaidd Giovanni Boccaccio, awdur y Decamerone
- 1495 – bu farw Siasbar Tudur, 10 mlynedd wedi i'w nai ddod yn Harri VII
- 1834 – ganwyd Griffith Rhys Jones (ffugenw: Caradog), arweinydd y 'Côr Mawr' o tua 460 llais
- 1913 – cyhoeddwyd y croesair modern cyntaf, a gynlluniwyd gan Arthur Wynne, ym mhapur newydd y New York World
- 1988 – bu farw 270 o bobl yn Nhrychineb Lockerbie
- 1858 – ganwyd y cyfansoddwr opera Eidalaidd Giacomo Puccini
- 1943 – bu farw'r awdures Seisnig Beatrix Potter
- 1989 – bu farw'r llenor Gwyddelig Samuel Beckett
- 1967 – ganwyd Richey Edwards, gitarydd y Manic Street Preachers, yng Nghoed-duon
- 1993 – ganwyd Meghan Trainor, cantores, yn Nantucket, Massachusetts.
- 1763 – cyflwynodd Richard Price ddarlith ar yr hyn a elwir heddiw'n Theorem Bayes-Price
- 1777 – ganwyd Alexander I, tsar Rwsia (m. 1825)
- 1801 – ganwyd William Watkin Edward Wynne, hynafiaethydd ac Aelod Seneddol
- 1965 – Roy Jenkins yn dod yn Ysgrifennydd Cartref
- 1986 – cwblhaodd Dick Rutan a Jeana Yeager eu taith o gwmpas y byd yn yr awyren Voyager
- 2013 – bu farw Mikhail Kalashnikov, dylunydd Rwsaidd a dyfeisiwr arfau milwol (g. 1919)
24 Rhagfyr: Noswyl Nadolig; Diwrnod annibyniaeth Libya
- 1659 – bu farw Walter Cradock, Piwritan Cymreig a aned ger Llan-gwm, Sir Fynwy
- 1905 – ganwyd yr awyrennwr a'r cynhyrchydd ffilmiau Howard Hughes
- 1960 – ganwyd y cyflwynydd teledu Carol Vorderman
- 1968 – bu farw'r bardd David James Jones (Gwenallt)
- 1982 – bu farw'r bardd Ffrengig Louis Aragon yn 85 oed
- 333 – dathlwyd y Nadolig cyntaf gan y Cristnogion cynnar
- 800 – coronwyd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Siarlymaen ym Masilica Sant Pedr, Rhufain
- 1642 – ganwyd y ffisegydd a'r mathemategwr Seisnig Isaac Newton (m. 1727)
- 1766 – ganwyd Christmas Evans ym mhlwyf Llandysul; gweinidog gyda'r Bedyddwyr (m. 1838)
- 1899 – ganwyd yr actor Humphrey Bogart (m. 1957)
- 1917 – bu farw Richard Jones Berwyn, un o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia
26 Rhagfyr: Gŵyl San Steffan a gwylmabsant Maethlu.
- 973 – ganwyd Abu al-Ala al-Ma'arri, bardd yn yr iaith Arabeg
- 1838 – bu farw Ann Hatton ("Ann of Swansea"), nofelydd yn yr iaith Saesneg
- 1858 – ganwyd Owen Morgan Edwards yn Llanuwchllyn, Meirionnydd
- 1898 – darganfyddodd y gwyddonydd Marie Curie yr elfen gemegol ymbelydrol radiwm
- 1990 – ganwyd Aaron Ramsey, pêl-droediwr
- 537 – cwbwlhawyd eglwys yr Hagia Sophia yng Nghaergystennin (Istanbul fodern)
- 1822 – ganed y cerddor John Roberts (Ieuan Gwyllt) yn Nhanrhiwfelen, ger Aberystwyth
- 1922 – sefydlwyd Gwasg Gregynog
- 1931 – ganwyd y pêl-droediwr John Charles yn Abertawe
- 1953 – darganfuwyd cyfres o ogofâu yn Nhan-yr-Ogof, Powys
- 1065 – cysegrwyd Abaty Westminster
- 1846 – ganwyd yr hynafiaethydd Thomas Christopher Evans
- 1937 – bu farw'r cyfansoddwr o Wlad y Basg Maurice Ravel
- 1956 – bu farw'r Archdderwydd John Dyfnallt Owen
- 1961 – bu farw Robert Lloyd (Llwyd o'r Bryn), awdur Y Pethe
29 Rhagfyr: Diwrnod annibyniaeth Mongolia (1911)
- 1170 – llofruddiwyd Thomas Becket, Archesgob Caergaint
- 1763 – bu farw'r llysieuegydd William Morris, un o Forysiaid Môn
- 1890 – lladdwyd 300 o lwyth y Lakota yng Nghyflafan Wounded Knee
- 1926 – bu farw Rainer Maria Rilke, bardd yn yr iaith Almaeneg
- 1938 – bu farw Eluned Morgan, un o lenorion amlycaf y Wladfa, Patagonia
- 39 – ganwyd Titus, ymerawdwr Rhufain
- 1460 – ymladwydd y Frwydr Wakefield yng Ngorllewin Efrog, un o frwydrau pwysicaf Rhyfel y Rhosynnau
- 1604 – cysegrwyd Richard Parry yn Esgob Llanelwy
- 1874 – ganwyd William Nantlais Williams, gweinidog, bardd ac awdur 'Tu ôl i'r dorth mae'r blawd...'
- 2006 – bu farw Saddam Hussein, cyn-arlywydd Irac
- 192 – bu farw Commodus, ymerawdwr Rhufain, 31
- 1879 – arddangoswyd bylb golau gwynias o wneuthuriad Thomas Edison am y tro cyntaf erioed.
- 1937 – ganwyd Anthony Hopkins ym Margam, Castell-nedd Port Talbot; actor
- 1941 – ganwyd Alex Ferguson yn Govan, Glasgow; rheolwr Manchester United rhwng 1986 a 2013
- 1954 – ganwyd Alex Salmond, pedwerydd Prif Weinidog yr Alban a chyn-arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban.
|