Richard Jones Berwyn
Richard Jones Berwyn | |
---|---|
Ffugenw | Richard Jones Berwyn |
Ganwyd | 1838 Tregeiriog, Glyndyfrdwy |
Bu farw | 25 Rhagfyr 1917 Dyffryn Camwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Un o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia oedd Richard Jones Berwyn, mwy adnabyddus fel R. J. Berwyn, ganed Richard Jones (31 Hydref 1837 – 25 Rhagfyr 1917).
Ganed ef yn Nhregeiriog yn ardal Y Berwyn; cymerodd "Berwyn" fel cyfenw yn ddiweddarach. Hyfforddodd Berwyn fel athro ysgol, ond roedd ganddo hefyd drwydded morwr a daeth yn gyfrifydd. Treuliodd rai blynyddoedd yn gweithio yn Llundain, yna ymfudodd i'r Unol Daleithiau lle daeth yn rhan o'r ymgyrch i gael Gwladfa Gymreig gyda gwŷr fel Edwin Cynrig Roberts. Dychwelodd i Gymru i deithio i Batagonia ar y Mimosa, gan weithio fel cyfrifydd i dalu ei gludiant.
Bu ganddo nifer o swyddi cyhoeddus yn y Wladfa, gan gynnwys gweithredu fel Cofrestrydd. Priododd Elizabeth Pritchard yn Rawson ar 25 Rhagfyr 1868. Bu'n cadw ysgol yno, ac ysgrifennodd lyfrau ar gyfer eu defnyddio yn yr ysgol. Gwerslyvr i Ddysgu Darllen at Wasanaeth Ysgolion y Wladva (1878) oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu yn Ne America.