Rhoi'r bleidlais i ferched yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Swffragets mewn rali ym Mharc Cathays yn 1913.

Yn hanesyddol, mae rhoi'r bleidlais i ferched yng Nghymru wedi ei gwthio i'r cyrion oherwydd amlygrwydd cymdeithasau a grwpiau gwleidyddol yn Lloegr a arweiniodd at ddiwygio'r drefn bleidleisio i ferched yng ngwledydd Prydain. Er hynny, roedd grwpiau ac unigolion o Gymru yn ddylanwadol iawn yng Nghymru a thu hwnt. Pleidleisiodd benywod am y tro cyntaf mewn Etholiad Cyffredinol ar 14 Rhagfyr 1918.

Hanes rhoi'r bleidlais i ferched yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhoi'r bleidlais i ferched yng Nghymru 1832-1884[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Dowlais, wrth galon y diwydiant haearn, roedd Rose Mary Crawshay, o Loegr yn wreiddiol ac yn wraig i Robert Thompson Crawshay yn rhoi llawer o'i amser i waith gwirfoddol.[1] Agorodd ceginau cawl, sefydlodd saith llyfrgell yn yr ardal ond ar wahân i'r gwaith hyn roedd yn cael ei adnabod fel ffeminist cadarn.[2][3] Yn 1866, arwyddodd hi a 25 dynes arall o Gymru, y ddeiseb cyntaf i roi'r bleidlais i ferched. [1]

Ym Mehefin 1870, cynhaliodd Rose Crawshay gyfarfod cyhoeddus yn ei chartref, o bosibl, y cyfarfod cyntaf yng Nghymru i drafod rhoi'r bleidlais i ferched ond cafodd ei chwestiynu gan y papur newydd lleol am darfu'r heddwch ac arwain menywod Cymru ar gyfeiliorn. [4]

[5]

Ychydig iawn o ymgyrchu dros roi'r bleidlais i ferched oedd yng Nghymru yn ystod yr 1880au cynnar. [6] Un digwyddiad pwysig ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwn oedd y penderfyniad yn 1884 gan genhadon Aberdâr, Merthyr a Chymdeithas Pyllau Glo ardal Dowlais i gefnogi cyfres o ddarlithoedd gan Jeanette Wilkinson ar hawliau merched i bleidleisio. Dyma'r cofnod cyntaf sydd wedi'i recordio o ddiddordeb dynion Cymru mewn cefnogi rhoi'r bleidlais i ferched. [6]

Cymunedau Swffrget yng Nghymru, 1884-1906[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1897 gwelwyd seiliau National Union of Women's Suffrage Societies (NUWSS) o dan arwenyddiaeth Millicent Fawcett.[7] Ni sefydlwyd cangen NUWSS yng Nghymru nes 1907 a hynny mewn cyfarfod yn Llandudno. Daeth Mrs Walton-Evans yn lywydd y gell.[8] Dechreuodd ganghennau eraill agor dros Gymru: Caerdydd yn 1908, a Rhyl [9] Conwy[10]Bangor yn 1909.[11]

Roedd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (neu'r WSPU) yn fwy ymosodol o symudiad y swffraget ac nid oedd yn gryf yng Nghymru. [12] Yn 1913 roedd pum cangen yng Nghymru o'i gymharu â 26 cangen ar gyfer yr NUWSS. Serch hynny, roedd yr WSPU wedi bod yn weithredol yn hybu ei hun yng Nghymru ymhellach cyn â Emmeline Pankhurst a Mary Gawthorpe yn cynnal cyfarfodydd drwy Gymru yn 1906.[13][14]

1907–1912[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwelwyd yn 1912 gynnydd mewn gweithredu ymosodol yng Nghymru.[15] Amharodd yr WPSU ar araith Lloyd George yng Nghaernarfon. Cafodd y protestwyr, dynion a merched, eu trin yn gas - torrwyd eu dillad a rhwygwyd ei gwalltiau a chafwyd eu taro â ffyn.[15] Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, aflonyddwyd Lloyd George unwaith eto gan y Swffraget tra'n traddodi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Pythefnos wedyn, digwyddodd y digwyddiad mwyaf drwg-enwog yn hanes rhoi'r bleidlais i ferched yng Nghymru pan ddychwelodd Lloyd George i agor neuadd ei bentref enedigol, Llanystumdwy.[15][16] Pan ddechreuodd siarad cafodd ei darfu gan weiddi 'Pleidlais i ferched!' Cafodd y rhai oedd yn gweiddi eu hymosod arnynt yn ffyrnig gan y dorf.[15] Cafodd y digwyddiad ei gofnodi yn y Daily Mirror a Illustrated London News am aflonyddu ar y darlun o'r Cymru heddychlon, anghydffurfiol.[17][18]

Margaret Haig Mackworth, Rhondda, Swffraget ymosodol Cymreig 

Yn 1913 gwelwyd ymdrech un o'r swffraget amlycaf yng Nghymru, Margaret Haig Mackworth, merch AS D. A. Thomas a'i wraig weithredol Sybil Thomas. Cafodd Mackworth ei recriwtio yn 1908 ac roedd yn aelod lleisiol a gweithredol iawn.[13][19] Yn 1913 rhoddodd flwch post ar dân ac ar ôl gwrthod talu'r dirwy fe'i hanfonodd i garchar yn Usk.[20][19] Tra'n y carchar ymprydiodd Mackworth a chafodd ei rhyddhau o dan yr hyn a alwyd yn 'Cat and Mouse Act'.[21]

Yn Ne Cymru gwelwyd ymlyniad y dosbarth gweithiol i'r achos o roi'i bleidlais i ferched drwy Gymdeithas Cydweithredol y Merched, â'r gangen gyntaf yn Ton Pentre yn y Rhondda yn 1914 o dan arweiniad Elizabeth Andrews.[22]

Cyfeiriadaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadaeth[golygu | golygu cod y dudalen]