Nos Galan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Nos Galan yw'r enw ar gyfer 31 Rhagfyr, noson olaf y flwyddyn yng Nghalendr Gregori. Mewn nifer o wledydd, bydd pobl yn cynnal noson gymdeithasol ar Nos Galan sy'n cyrraedd ei huchafbwynt gyda phawb yn cyfarch a dymuno blwyddyn newydd dda i'w gilydd am hanner nos.

Samoa, Tonga a Critimati (Ynys Nadolig), rhan o Ciribati, yw'r lleoedd cyntaf i groesawu'r Flwyddyn Newydd tra bod Samoa America ac Ynys Baker yn Unol Daleithiau America ymhlith yr olaf.[1]

Mae gan wledydd o amgylch y byd wahanol draddodiadau ac arferion ar gyfer nodi neu groesawu'r flwyddyn newydd. Mewn nifer o ddathliadau, ac yn arbennig dinasoedd, bydd hanner nos yn cael ei ddynodi gyda thanio tân gwyllt.

Cynhelir Rasys Nos Galan, ras redeg 5 kilometr (3.1 mi), yn Aberpennar yng Nghwm Cynon bob blwyddyn. Mae'r ras yn dathlu bywyd a gorchestion y rhedwr Guto Nyth Brân.

Mae rhai rhannau o Gymru yn dal i ddathlu'r Hen Galan ar 12-13 Ionawr, yn unol â'r Calendr Iwliaidd, sef y calendr oedd yn cael ei ddefnyddio tan iddo gael ei ddisodli gan Galendr Gregori yn 1752.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Emily Allen (31 December 2016). "New Year's Eve: When is it 2017 around the world?". The Telegraph. Cyrchwyd 31 December 2016.