Neidio i'r cynnwys

Rasys Nos Galan

Oddi ar Wicipedia
Rasys Nos Galan
Enghraifft o:digwyddiad chwaraeon blynyddol Edit this on Wikidata
LleoliadAberpennar Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.rctcbc.gov.uk/EN/Events/NosGalan/NosGalanRoadRace.aspx Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Cerflun Guto Nyth Brân, Stryd Rhydychen, Aberpennar

Mae Rasys Nos Galan yn ddigwyddiad blynyddol ar gyfer ras pum-cilometr (3.1 milltir), a gynhelir ar Nos Galan yn Aberpennar, yng Nghwm Cynon.

Mae Rasys Nos Galan yn dathlu bywyd a chyflawniadau y rhedwr o Gymro, Guto Nyth Brân. Fe'i sefydlwyd ym 1958 gan y rhedwr lleol Bernard Baldwin, ac mae'n cael ei redeg dros 5 cilometr ar lwybr ras cystadleuol cyntaf Guto.

Ar ei anterth roedd yr achlysur yn cael sylw gan y BBC yn genedlaethol fel rhan o'i ddathliadau Nos Galan, ond daeth y rasys i ben ym 1973 yn dilyn pryderon gan Heddlu Morgannwg ynglŷn â'r oedi gormodol i draffig. Atgyfodwyd Rasys Nos Galan yn 1984, pan gostyngwyd nifer y rhedwyr i 14 a chynhaliwyd ras 1 cilometr. Roedd y ras hefyd yn torri gyda'r traddodiad, gyda thri rhedwr dirgel, yn cynrychioli presennol, gorffennol a dyfodol athletau, yn cario Ffagl Nos Galan.

Mae Rasys Nos Galan yn dal i ddenu rhedwyr o bob cwr o Brydain. Cystadlodd dros 800 o redwyr yn 2009, a daeth 10,000 o bobl i Aberpennar ar gyfer adloniant oedd yn rhan o'r noson.[1]

Llwybr a thraddodiadau

[golygu | golygu cod]

Mae'r brif ras yn dechrau gyda gwasanaeth yn yr eglwys yn Llanwynno, ac yna torch o flodau yn cael ei osod ar fedd Guto Nyth Brân ym mynwent Llanwynno. Ar ôl cynnau ffagl, mae'n cael ei gario i'r dref gyfagos, Aberpennar, lle bydd y brif ras yn digwydd. Mae fformat y ras wedi newid sawl gwaith yn ystod ei hanes. Mae'r ras bresennol yn cynnwys tri cylched drwy ganol y dref, gan ddechrau yn Heol Henry ac yn dod i ben yn Heol Rhydychen, ger cerflun coffaol Guto.

Yn draddodiadol, amserwyd y ras i ddod i ben am hanner nos.[2] Ond yn ddiweddar cafodd ei ail-drefnu er cyfleustra adloniant teuluol, a nawr mae'n dod i ben tua 21:00.

Mae'r aildrefnu wedi arwain at dwf o ran maint a gradd, a nawr mae'n dechrau gyda phrynhawn o adloniant stryd, a rasys hwyl ar gyfer plant,  gan ddiweddu gyda'r gwasanaeth yn yr eglwys, ras y rhedwyr proffesiynol a chyflwyniadau.[3]

Rhedwr dirgel

[golygu | golygu cod]

Mae'r ras yn dechrau ac yn cael ei redeg gan redwr dirgel, fel arfer rhywun enwog ym myd rasio neu chwaraeon. Y rhedwr dirgel sy'n gosod y dorch flodau:[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Wales stars help warm up Nos Galan runners". South Wales Echo. 2010-01-01. Cyrchwyd 2010-01-01.
  2. "Mountain Ash". Rhondda Cynon Taff. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-18. Cyrchwyd 2009-01-01.
  3. "Nos Galan". nosgalan.co.uk. Cyrchwyd 2010-01-01.
  4. "Roberts and Hook are Nos Galan mystery runners". BBC Wales. 2010-01-01. Cyrchwyd 2010-01-01.
  5. "John Hartson and Mark Taylor are Nos Galan runners". BBC Wales. 31 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2011.
  6. "Rugby legend Shane Williams joins Nos Galan races new year celebrations". walesonline.co.uk. 31 December 2011. Cyrchwyd 1 Ionawr 2013.
  7. "Dai Greene helps start Nos Galan run in Mountain Ash". BBC News. 1 January 2013. Cyrchwyd 1 Ionawr 2013.
  8. "Nos Galan: Record turnout with Alun Wyn Jones 'mystery' runner". BBC News. 31 December 2013. Cyrchwyd 6 Ionawr 2014.
  9. "Datgelu rhedwyr ras Nos Galan". BBC Cymru Fyw. 31 Rhagfyr 2025. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2025.
  10. "Jess Fishlock yw rhedwr cudd Ras Nos Galan 2025". BBC Cymru Fyw. 31 Rhagfyr 2025. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2025.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]