Hugh Myddelton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hugh Myddelton
SirHughMyddelton.jpg
Ganwyd 1560 Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Rhagfyr 1631 Edit this on Wikidata (71 oed)
Man preswyl Llundain Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth peiriannydd sifil, peiriannydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr Edit this on Wikidata
Tad Richard Myddelton Edit this on Wikidata
Cofeb i Hugh Myddelton gan John Thomas yn Islington Green, ger diwedd y New River. Dadorchuddiwyd y cerflun o Myddelton yn 1862 gan William Gladstone.
Cerflun o Hugh Myddelton ger y Gyfnewidfa Freninol (The Royal Exchange), Llundain.

Mwynwr, masnachwr, peiriannydd, banciwr ac aelod o deulu Cymreig y Myddeltons oedd Syr Hugh Myddelton (neu weithiau Middleton), barwnig 1af (1560 – 10 Rhagfyr 1631). Roedd yn frawd i Syr Thomas Myddelton, Arglwydd Faer Llundain ym 1613.

Ef oedd chweched mab Richard Myddelton, llywiawdr Castell Dinbych, a aeth i Lundain i wneud ei ffortwn.

Gweithiodd i eurof (gof aur) a llewyrchodd yn y grefft honno, cymaint nes y penodwyd ef yn Ofaint Tlysau'r Brenin, gan Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI). Fe'i gwnaed yn aldramon a chofiadur o dan siarter newydd tref Dinbych yn 1596 a chynrychiolodd y fwrdeisdref yn y Senedd o 1603 hyd 1628, gan ddilyn ei dad fel AS Bwrdeistrefi Dinbych a bu yn y swydd honno tan 1628. Daeth yn ŵr cyfoethog iawn a gwnaeth y rhan fwyaf o'i arian fel masnachwr, fel gof aur ac fel prynwr a gwerthwr defnyddiau.

Chwiliodd yn aflwyddiannus am lo yn Nyffryn Clwyd ond bu'n fwy llwyddiannus gyda chynllun New River, cynllun a wireddwyd ganddo, er mwyn cyflenwi dŵr i Lundain.

Yn 1617 cymerodd brydles ar weithfeydd plwm ac arian y Mines Royal Company yn Sir Aberteifi er gwaethaf gwrthwynebiad cryf fe lwyddodd i raddau helaeth gyda'r gwaith — rhoes gwpanau o arian a gloddiwyd yn y sir i gorfforaethau Dinbych a Rhuthun a chwpan aur i bennaeth ei gangen ef ei hun o'r Myddeltoniaid yng Ngwaenynog. Ond gwrthododd dderbyn gwahoddiad Syr John Wynn o Wydir, yn 1625, i ymgymryd â'r gwaith o adennill tir oddi ar y môr yn y Traeth Mawr, gwaith tebyg i hwnnw yr oedd newydd orffen ceisio ei wneuthur (eithr heb lwyddo, a cholli ohono lawer o arian yn y fenter) yn Ynys Wyth gyda Syr Bevis Thelwall (gŵr arall o Sir Ddinbych). Gwnaethpwyd ef yn farwnig — 'y Barwnig Hugh Middleton o Ruthun, dinesydd ac eurof o Lundain' ar 19 Hydref 1622.

Bu farw ar 10 Rhagfyr 1631 yn ei gartref yn Cheapside, Llundain, gan adael 10 mab a 6 merch. Fe'i claddwyd yn eglwys St. Matthew Friday Street, Llundain.

New River neu'r New Cut[golygu | golygu cod y dudalen]

The New Gauge House (1856) sy'n dal i reoli faint o ddŵr a dynnir o Afon Lea i gychwyn yr Afon Newydd (a welir ym mlaendir y llun.[1]

Mae Hugh Myddelton yn fwyaf nodedig, heddiw, am ei ran yn cyflenwi dŵr droyw o Afon Lea, ger Ware, Swydd Hertford i'r New River Head, Llundain er mwyn datrus y broblem o brinder dŵr difrifol yn y ddinas.

Daeth y prosiect i drafferthion ariannol reit ar y cychwyn, ond aeth Myddelton i'w boced ei hun hyd at ddiwedd y gwaith, gyda rhyw ychydig o gymorth gan y brenin. Cwbwlhawyd y gwaith rhwng 1608 a 1613 a chafwyd agoriad swyddogol ar 29 September 1613. Yn wreiddiol roedd yr afon newydd oddeutu 38 milltir (c. 60 km). Costiodd y cyfan lawer o bres i Myddelton, a dim ond rhan o'r swm honno a ad-dalwyd iddo gan y brenin.

Rhai o aelodau'r teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Brodyr[golygu | golygu cod y dudalen]

  • William Myddelton a oedd yn Babydd ac a briododd ferch o Fflandrys[2]
  • Robert Myddelton, menygwr yn Llundain a fu'n cynrychioli Weymouth yn y Senedd, lle yr oedd yn rhydd ei feirniadaeth ar bolisi masnachol Iago. Roedd yn un o rydd-freinwyr tref Dinbych yn 1615 ond ni chymerodd unrhyw ran mewn materion Cymreig.

Cefnder[golygu | golygu cod y dudalen]

  • William Midleton (c. 1550 - c. 1600) neu 'Gwilym Canoldref', bardd, fforiwr a milwr.

Nai[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Richard Myddelton, rhydd-freiniwr y Grocers' Company a chyfrannwr yn y New River Company; roedd yn delio mewn crwyn yn rhannau pellaf y Môr Canoldir, ac yn gwasnaethu fel consul o dan y Levant Company tua 1651-3.

Daeth enw'r teulu o Robert Myddelton, mab Rhirid ap Dafydd o Benllyn (1393–1396), drwy ei briodas â Cecilia, aeres Syr Alexander Myddleton o Middleton, pentref bychan ym mhlwyf Llanffynhonwen (Saesneg: Chirbury), Sir Amwythig gan fabwysiadu cyfenw ei wraig. Saif y pentref oddeutu milltir o ffin bresennol Cymru a Lloegr. Bu gan eu disgynyddion swyddi o dan y Goron, yn Sir Ddinbych a symudodd tri o feibion Richard Myddelton (c. 1508-75) i Lundain. Ymhlith y mwayf adnabyddus o'r teulu y mae:

  • Syr Thomas Myddelton (1550 - 1631), Arglwydd Faer Llundain
  • Syr Hugh Myddelton (1560 - 1631), peirinnydd y New River
  • William Midleton (c. 1550 - c. 1600) neu 'Gwilym Canoldref', bardd, fforiwr a milwr.
  • Syr Thomas Myddelton (1586 - 1666) o'r Waun ac yna Wrecsam a Chastell Rhuthun; mab Arglwydd Faer Llundain (uchod). Arweiniodd luoedd y Senedd yn y gogledd-ddwyrain.
  • Thomas Myddelton (c. 1624 - 1663) a wnaed yn farwnig yn 1660 am ei wasanaeth i'r Goron.

Daeth y llinach wrywaidd i ben yn 1796.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. newriver.pdf at shelford.org
  2. Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 19 Medi 2017.
  3. Y Gwyddoniadur Cymreig, Gwasg Prifysgol Cymru; tud. 642; gol. John Davies; adalwyd 19 Medi 2017.