Richard Myddelton (c. 1508 - 1575)

Oddi ar Wicipedia
Richard Myddelton
Ganwyd1508 Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1578 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1542-44 Parliament Edit this on Wikidata
TadFulk Myddleton Edit this on Wikidata
MamMargaret Smith Edit this on Wikidata
PriodJane Dryhurst Edit this on Wikidata
PlantThomas Myddelton, Hugh Myddelton, Robert Myddelton, Alice Myddelton, Ffoulk Myddleton, of Bodlith Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Ddinbych oedd Richard Myddelton (c. 1508 - 1575), a oedd yn fab i Foulk Myddelton, llywiawdwr Castell Dinbych.[1]

Yn 1542 etholwyd ef yn Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, dros Sir Ddinbych.[2]

Ymfudodd tri o'i feibion, allan o naw, i Lundain, gan chwarae rhan blaenllaw iawn ym musnes a gwleidyddiaeth y ddinas.[3] Dilynodd un ohonynt ei dad yn llywiawdwr Castell Dinbych.

Y teulu[golygu | golygu cod]

Daeth enw'r teulu o Robert Myddelton, mab Rhirid ap Dafydd o Benllyn (1393–1396), drwy ei briodas â Cecilia, aeres Syr Alexander Myddleton o Middleton, pentref bychan ym mhlwyf Llanffynhonwen (Saesneg: Chirbury), Swydd Amwythig gan fabwysiadu cyfenw ei wraig. Saif y pentref oddeutu milltir o ffin bresennol Cymru a Lloegr. Bu gan eu disgynyddion swyddi o dan y Goron, yn Sir Ddinbych a symudodd tri o feibion Richard Myddelton (c. 1508-75) i Lundain. Ymhlith y mwayf adnabyddus o'r teulu y mae:

  • Syr Thomas Myddelton (1550 - 1631), Arglwydd Faer Llundain
  • Syr Hugh Myddelton (1560 - 1631), peirinnydd y New River
  • William Midleton (c. 1550 - c. 1600) neu 'Gwilym Canoldref', bardd, fforiwr a milwr.
  • Syr Thomas Myddelton (1586 - 1666) o'r Waun ac yna Wrecsam a Chastell Rhuthun; mab Arglwydd Faer Llundain (uchod). Arweiniodd luoedd y Senedd yn y gogledd-ddwyrain.
  • Thomas Myddelton (c. 1624 - 1663) a wnaed yn farwnig yn 1660 am ei wasanaeth i'r Goron.

Daeth y llinach wrywaidd i ben yn 1796.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. yba.llgc.org.uk; Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 19 Medi 2017.
  2. http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1509-1558/member/myddelton-richard-1509-7778
  3. Y Gwyddoniadur Cymreig; Gwasg Prifysgol Cymru (2008); gol: John Davies; tud 642.
  4. Y Gwyddoniadur Cymreig, Gwasg Prifysgol Cymru; tud. 642; gol. John Davies; adalwyd 19 Medi 2017.