Alexander I, tsar Rwsia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Alexander I, tsar Rwsia
Alexander I by François Gérard.jpg
Ganwyd 12 Rhagfyr 1777 Edit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Tachwedd 1825 Edit this on Wikidata (47 oed)
Taganrog Edit this on Wikidata
Gwaith Gwleidydd Edit this on Wikidata
Olynydd Niclas I, tsar Rwsia Edit this on Wikidata
Priod Elizabeth Alexeievna Edit this on Wikidata
Plentyn/plant Elizabeth Alexandrovna o Rwsia, Nikolai Lukash, Maria Aleksandrowna o Rwsia, Gustaw Ehrenberg Edit this on Wikidata
Teulu Niclas I, tsar Rwsia, Constantine Pavlovich o Rwsia, Michael Pavlovich o Rwsia, Anna Pavlovna o Rwsia, Maria Pavlovna o Rwsia, Alexandra Pavlovna o Rwsia, Catherine Pavlovna o Rwsia, Grand Duchess Elena Pavlovna of Russia, Olga Pavlovna o Rwsia Edit this on Wikidata
Brenhinlin/llinach Q870568[*]
Gwobr/au Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Marchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur, Marchog Uwch Groes Urdd Maria Theresa, Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky, Urdd yr Eryr Du, Urdd Alexander Nevsky, Urdd Sant Andrew, Urdd San Sior, 4ydd Dosbarth, Urdd Sant Stanislaus Edit this on Wikidata
Llofnod
Alexander I of Russia signature.svg

Tsar Rwsia o 1801 tan 1825 a Brenin Gwlad Pwyl o 1815 tan 1825 oedd Alexander I Pavlovich (Rwsieg Александр I Павлович) (12 / 23 Rhagfyr, 1777, St Petersburg - 19 Tachwedd / 1 Rhagfyr 1825, Taganrog). Yn ystod hanner cyntaf ei deyrnasiad cyflwynodd nifer o ddiwygiadau rhyddfrydol, ond yn ddiweddarach trodd at bolisïau ceidwadol gan ddileu llawer o'i diwygiadau cynharach.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Alexander yn fab i Archddug Pawl Petrovich (wedyn Tsar Pawl) a Maria Fedorovna, Sophia Dorothea o Württemberg. O'i blentyndod cynnar ymlaen, roedd Alexander yn degan mewn brwydr rhwng ei dad a'i fam-gu, Catrin Fawr. Roedd Catrin eisiau i'w ŵyr hynaf gael addysg rhyddfrydol, ac felly dysgodd ef egwyddorion rheswm a natur Rousseau gan y tiwtor a drefnodd hi iddo o'r Swistir, Frederic Caesar de Laharpe. Ar y llaw arall, cafodd ef ddylanwad ei dad Tsar Pawl a'i athro milwrol, Nikolay Saltykov, drwy ymweliadau wythnosol i Gatchina, lle cafodd e wybod am draddodion unbennaeth y tsariaid. Gwelir tensiynau ei blentyndod yn ei bersonoliaeth drwy gydol ei deyrnasiad yn ei bolisïau anwadal. Yn bymtheg oed, ym 1793, priododd dywysoges o'r Almaen, Louise o Baden (Elizaveta), oedd hefyd yn ifanc, 14 blwydd oed. Daeth marwolaeth ei fam-gu dair blynedd yn ddiweddarach (Tachwedd 1796) â'i dad i'r orsedd. Roedd teynrasiad ei dad Pawl yn ystormus. Ceisiodd gyflwyno diwygiadau yn wyneb gwrthwynebiad ei gynhorwyr closaf a'i fab. Daeth Alexander i rym mewn amgylchiadau anodd. Cafodd Pawl ei ddiorseddu a'i lofruddio mewn coup d'état ym mis Mawrth 1801, a gosodwyd Alexander yn ei le. Er iddo gefnogi'r coup, mae'n debyg nad oedd Alexander wedi bod eisiau i'w dad gael ei ladd, a pharodd amgylchiadau ei ddyrchafiad iddo ddrwgdyio y cynghorwyr brenhinol.

Rhagflaenydd:
Pawl I
Tsar Rwsia
12 / 23 Mawrth 1801
19 Tachwedd / 1 Rhagfyr 1825
Olynydd:
Niclas I