John Charles

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Charles
John Charles, Wales versus Scotland, Ninian Park, 1954.jpg
John Charles: Cymru yn erbyn Yr Alban, Parc Ninian, 1954
Ganwyd 27 Rhagfyr 1931 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw 21 Chwefror 2004 Edit this on Wikidata (72 oed)
Wakefield Edit this on Wikidata
Galwedigaeth pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed Edit this on Wikidata
Gwobr/au CBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au Juventus F.C., C.P.D. Dinas Caerdydd, Leeds United A.F.C., Hereford United F.C., Merthyr Tydfil F.C., A.S. Roma, C.P.D. Dinas Abertawe, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Leeds United A.F.C. Edit this on Wikidata
Safle canolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeon Cymru Edit this on Wikidata
John Charles

Roedd John Charles (27 Rhagfyr 193121 Chwefror 2004) yn chwaraewr pêl-droed o Abertawe — y chwaraewr gorau mae Cymru erioed wedi'i gynhyrchu, yn ôl rhai.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yng Nghwmdu, ger Abertawe, a bu'n chwarae dros glwb pêl-droed Leeds United o 1949 i 1957. Yn ystod yr adeg hon, fe sgoriodd 150 o goliau, gan gynnwys 42 o goliau yn y tymor 1953-1954.

Ym 1957 fe'i trosglwyddwyd i'r tîm enwog Eidalaidd, Juventus, am dâl o £65,000, a oedd yn record ar y pryd. Bu'n chwarae dros Juventus am bum mlynedd, gan sgorio 93 o weithiau mewn 155 o gêmau. Enillodd y scudetto (pencampwriaeth y cynghrair Eidalaidd) dair gwaith, a'r Cwpan Eidaleg ddwywaith. Ei lysenw yn yr Eidal oedd Il Gigante Buono, neu Y Cawr Caredig, gan na chafodd ei rybuddio na'i anfon o'r cae trwy gydol ei yrfa.

Ar ôl iddo adael Juventus ym 1962, chwaraeodd dros glwb Leeds United eto, ac A.S. Roma yn yr Eidal, a gorffennodd ei yrfa gyda chlwb Dinas Caerdydd.

Chwaraeodd John Charles am y tro cyntaf dros dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru pan oedd yn 18 mlwydd a 71 diwrnod o oedran. Charles oedd calon tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden pan gollodd Cymru y rownd chwarter-derfynnol 1-0 i dîm Brasil, enillwyr y twrnamaint—ni chwaraeodd Charles yn y gêm hon oherwydd anaf.

Tra'n hybu llyfr ym Milano yn yr Eidal yn Ionawr 2004, fe ddioddefodd drawiad ar y galon, a bu'n rhaid torri rhan o'i droed cyn ei hedfan yn ôl i Loegr. Yn gynnar ar fore Dydd Sadwrn, 21 Chwefror, bu farw yn ysbyty Pinderfields yn Wakefield.

Roedd ei frawd Mel Charles hefyd yn beldroediwr rhyngwladol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cliff Jones (g. 7 Chwefror 1935), Cymru, Abertawe a Tottenham Hotspur

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]