Dan-yr-Ogof
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Math | gwrthrych daearyddol, ogof i ymwelwyr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8307°N 3.6873°W ![]() |
Hyd | 17 cilometr ![]() |
![]() | |
Cyfres o ogofâu yn ne Powys yw Dan yr Ogof. Mae'n rhan o Ganolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru. Saif ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng nghongl de-orllewinol y Fforest Fawr, ger pentref Craig-y-nos. Mae tua 5 milltir i'r gogledd o Ystradgynlais a 15 milltir i'r de-orllewin o Aberhonddu, yng nghymuned Tawe Uchaf.
Mae Dan-yr-Ogof tua 10 milltir (16 km) o hyd, ac yn rhan o gyfres fwy o ogofâu; un o'r mwyaf yng ngorllewin Ewrop. Archwiliwyd yr ogofâu yma gyntaf yn 1912 gan ddau frawd lleol, Tommy a Jeff Morgan.
Cafwyd hyd i esgyrn dynol o 42 o unigolion yn yr ogofâu, ynghyd â llawer o esgyrn anifeiliaid.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Martyn Farr, Dan yr Ogof: The Jewel of Welsh Caves (Gwasg Gomer, 1999)
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Safle we Dan yr Ogof Archifwyd 2008-05-14 yn y Peiriant Wayback.