Golda Meir

Oddi ar Wicipedia
Golda Meir
Ganwyd3 Mai 1898 Edit this on Wikidata
Wcráin Edit this on Wikidata
Bu farw8 Rhagfyr 1978 Edit this on Wikidata
Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Man preswylPinsk, Milwaukee, Denver, Colorado, Milwaukee, Merhavia, Jeriwsalem, Unol Daleithiau America, Jeriwsalem, Moscfa, Jeriwsalem Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPalesteina dan Fandad, Israel Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Wisconsin–Milwaukee
  • North Division High School
  • Wisconsin State College of Milwaukee Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Israel, Minister of Foreign Affairs, Israel, Aelod o'r Knesset, Minister of the Interior of Israel, Labor Minister of Israel, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, ambassador of Israel to the Soviet Union Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolMapai, Alignment, Plaid Lafur Israel Edit this on Wikidata
PriodMorris Meyerson Edit this on Wikidata
PlantMenahem Meir Edit this on Wikidata
Gwobr/auOriel yr Anfarwolion Menywod Colorado, Gwobr Israel, honorary doctor of the Bar-Ilan University, Doctor Anrhydeddus o'r Brifysgol Hebraeg, Jerusalem, honorary doctor of Brandeis University, Urdd y Quetzal, Urdd dros ryddid, Urdd Seren y Cyhydedd, Order of José Matías Delgado, honorary citizen of Jerusalem Edit this on Wikidata
llofnod

Golda Meir, (Hebraeg:גולדה מאיר), ganed Golda Mabovitch (3 Mai 18988 Rhagfyr 1978), a adwaenid fel Golda Myerson rhwng 1917 a 1956, oedd pedwerydd prif weinidog Israel.

Ganed hi fel Golda Mabovitch yn Kiev yn yr Wcrain; roedd ei thad yn saer. Ymfudodd y teulu i Milwaukee, Wisconsin, pan oedd yn ieuanc, ac addysgwyd hi yno. Priododd Morris Myerson yn 1917. Ymfudasant i Balesteina yn 1921, ac ymuno â kibbutz. Daeth yn flaenllaw mewn gwleidyddiaeth, ac ymhen amser gwahanodd oddi wrth Morris, er na ysgarwyd hwy.

Wedi i Israel ddod yn annibynnol, apwyntiwyd hi'n llysgennad i'r Undeb Sofietaidd yn 1948, ac yn 1949 etholwyd hi i'r senedd, y Knesset. Yn 1956 daeth yn Weinidog dros faterion Tramor yn llywodraeth David Ben-Gurion. Wedi marwolaeth annisgwyl Levi Eshkol ar 26 Chwefror 1969, daeth yn Brif Weinidog. Hi oedd y wraig gyntaf i fod yn brif weinidog Israel, a dim ond y drydedd yn y byd i ddal y swydd. Yr unig ddwy o'i blaen oedd Sirimavo Bandaranaike o Sri Lanca ac Indira Gandhi o India.

Yn ystod ei chyfnod hi fel Prif Weinidog y bu Rhyfel Yom Kippur. Er i Israel ennill y rhyfel yn y diwedd, roedd beirniadaeth nad oedd y wlad wedi bod yn barod pan ddechreuodd y rhyfel. Ymddiswyddodd ar 11 Ebrill 1974. Bu farw o gancr yn Jeriwsalem yn 80 oed yn 1978.