Noswyl Nadolig

Oddi ar Wicipedia

Y noson cyn y Nadolig yw Noswyl Nadolig, sef y 24ain o Ragfyr. Yn draddodiadol, gelwid y noson hon yn 'nos Nadolig'. Dyna'r ffurf mewn rhai tafodieithoedd hyd heddiw.[1]

Dyma'r noson y daw Siôn Corn a'i anrhegion i blant y Gorllewin, America a rhannau o Asia. Fel arfer, mae'r dydd yn cael ei ddefnyddio i gwbwlhau trefniadau munud olaf ar gyfer y Nadolig: paratoi'r llysiau ar gyfer y cinio, lapio'r anrhegion a'u dosbarthu i ffrindiau a theulu.

Mewn rhai gwledydd megis y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Croatia a Hwngari, nid Siôn Corn sy'n dosbarthu'r anrhegion ond y Baban Iesu.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]