Coeden Nadolig
Mae’r Goeden Nadolig yn un o draddodiadau mwyaf poblogaidd dathliad y Nadolig. Mae fel arfer yn goeden fytholwyrdd gonifferaidd sy'n cael ei gosod yn y tŷ neu‘r tu allan, ac yn cael ei haddurno gyda goleuadau Nadolig ac addurniadau lliwgar yn ystod y dyddiau oddeutu’r Nadolig. Rhoddir angel neu seren ar gopa'r goeden yn aml i gynrychioli'r angylion neu Seren Bethlehem o stori geni Crist.
Hanes
[golygu | golygu cod]Gwreiddiau
[golygu | golygu cod]Mae'n debygol fod gwreiddiau'r traddodiad i'w cael yn niwylliant Celtaidd Ewrop cyn ymlediad Cristnogaeth,[1] mae'r arfer o osod coeden megis clwff o gelynnen wedi newid dros y blynyddoed gan ymledu i sawl gwlad led-led y byd.
Tarddodd y traddodiad o godi coeden Nadolig modern yn ystod Dadeni’r Almaen fodern gynnar. Weithiau mae ei darddiad o'r 16g yn gysylltiedig â'r diwygiwr Protestannaidd Cristnogol Martin Luther.[2] Dywedir mai ef oedd y cyntaf i ychwanegu canhwyllau wedi'u goleuo ar goeden fytholwyrdd. Gellid gweld darlun o'r goeden Nadolig cyfoes gyntaf a gofnodwyd mewn cerflun ar faen clo cartref preifat yn Turckheim, Alsace (a oedd ar y pryd yn rhan o'r Almaen, ond bellach yn rhan o Ffrainc), dyddiedig 1576.
Bellach mae'r goeden Nadolig yn symbol cydnabyddedig o ŵyl Gristionogol y Nadolig ond roedd yn wreiddiol yn draddodiad paganaidd nad oedd yn gysylltiedig â thraddodiadau'r Nadolig.[3] Roedd defnyddio coed bytholwyrdd, torchau, a garlantau i symboleiddio bywyd tragwyddol yn arferiad gan yr hen Eifftiaid, Tsieineaid a Hebreaid. Roedd addoli coed yn gyffredin ymhlith yr Ewropeaid paganaidd, gan gynnwys llwythau Celtaidd Cymru a goroesodd eu tröedigaeth i Gristnogaeth. Yng ngwledydd Llychlyn roedd arfer o addurno'r tŷ a'r ysgubor gyda choed bytholwyrdd yn y Flwyddyn Newydd i ddychryn y diafol ac o godi coeden i'r adar yn ystod cyfnod canol gaeaf. Yn ystod yr ŵyl ganol gaeaf Rhufeinig Saturnalia, addurnwyd tai â thorchau o blanhigion bytholwyrdd, ynghyd ag arferion eraill sydd bellach yn gysylltiedig â'r Nadolig.[4]
Cymru
[golygu | golygu cod]Er bod coed Nadolig wedi bod yn rhan amlwg o ddathliadau'r ŵyl mewn rhannau eraill o Ewrop ers y 16g tua chanol y 19g daeth y traddodiad i Gymru. Er hynny bu traddodiad hynafol o addurno tai yn y gaeaf gyda phlanhigion bytholwyrdd megis yr uchelwydd ac eiddew.
Oherwydd eu cysylltiadau Almaenig bu'r teulu brenhinol yn codi coed Nadolig. Roedd y dywysoges Fictoria yn gyfarwydd â'r traddodiad ers yn blentyn ac yn cofnodi'r wefr o ganfod anrhegion ar y goeden yn ei dyddiaduron. Wedi ei phriodas a'i chefnder Almaenig, Albert, ym 1841 daeth y goeden yn rhan amlwg o'u dathliadau teuluol hwy. Dechreuodd teuluoedd yr uchelwyr i fabwysiadu'r arfer yn weddol fuan.[5]
Ceir yr adroddiad cyntaf am goeden Nadolig yng Nghymru ym 1848 yn siop groser Mrs. Allen, Caerdydd. Roedd yn cael ei ddefnyddio i arddangos danteithion Nadoligaidd y siop. Mae'r cofnod cyntaf o ddefnydd cymdeithasol yn hytrach na masnachol mewn adroddiad yn y Monmouthshire Merlin ym 1850. Mae'r papur yn sôn am goeden yn addurno'r neuadd lle gynhaliwyd dawns flynyddol gwyr di-briod Tredegar. Yn ogystal â danteithion a ffrwythau roedd modrwyau priodas yn addurno'r goeden hefyd, ar gyfer y gŵyr bu'n ddigon ffodus i gaffael darpar briodferch yn y ddawns.[6]
Tua chanol y 1870au mae'r goeden yn dod yn rhan o brofiad plant y werin Gymreig. Ym 1875 mae adroddiad am goeden mewn parti ysgol yr Ysgol Genedlaethol Porthaethwy.[7] Ym 1876 mewn parti Eglwys Loegr, y Rhyl [8] ac ym 1879 mewn ysgol Sul anghydffurfiol yn Aberfan.[9]
Trwy eu defnyddio mewn adloniant cyhoeddus, ffeiriau elusennol, ysgolion, neuaddau cyhoeddus ac mewn ysbytai daeth y goeden Nadolig yn fwyfwy cyfarwydd erbyn troad yr 20g. Oherwydd teimladau Gwrth-Almaenig ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf bu leihau yn eu poblogrwydd am gyfnod.[10] Byrhoedlog oedd yr effaith, erbyn canol y 1920au roedd defnyddio coeden Nadolig wedi lledu i bob dosbarth.
Diwydiant
[golygu | golygu cod]Ym 1933 arweiniodd cyfyngiad ar fewnforio coed tramor i mewn i Brydain at dwf cyflym diwydiant newydd, wrth i dyfu coed Nadolig fel cnwd ddod yn fwyfwy fasnachol oherwydd maint y galw. Bellach mae tua 8 miliwn o goed Nadolig yn cael eu tyfu ar ynys Prydain pob blwyddyn ac mae eu harddangos mewn cartrefi, siopau a mannau cyhoeddus yn rhan arferol o dymor y Nadolig
Pob blwyddyn, caiff rhwng 33 a 36 miliwn o goed Nadolig pinwydd eu cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau a rhwng 50 a 60 miliwn yn Ewrop. Yn 1998, roedd tua 15,000 o dyfwyr coed Nadolig yn America. Yr un flwyddyn, amcangyfrwyd i Americanwyr wario $1.5 biliwn ar goed Nadolig.[11]
Rhywogaethau
[golygu | golygu cod]Y rhywogaethau a ddefnyddir amlaf yw ffynidwydd (Abies), sydd â'r fantais o beidio â cholli eu nodwyddau pan fyddant yn sychu, yn ogystal â chadw lliw ac arogl prydferth da; ond defnyddir rhywogaethau mewn genera eraill hefyd.
- Sbriwsen Norwy Picea abies (y goeden wreiddiol, y rhataf yn gyffredinol)
- Ffynidwydden arian Abies alba
- Ffynidwydden y Cawcasws Abies nordmanniana
- Ffynidwydden urddasol Abies procera
- Sbriwsen Serbia Picea omorika
- Pinwydden yr Alban Pinus sylvestris'
- Pinwydden ymbarél Pinus pinea (fel coeden fach ar ben bwrdd)
- Pinwydden y Swistir Pinus cembra
Ceir nifer o wahanol fathau o goed Nadolig artiffisial hefyd.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Clark, Christine and Brimhall-Vargas, Mark Secular Aspects and International Implications of Christian Privilege". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-29. Cyrchwyd 2007-12-21.
- ↑ Haidle, Helen (2002). Christmas Legends to Remember. David C Cook. ISBN 978-1-56292-534-5.
- ↑ Editors, History com. "History of Christmas Trees". HISTORY. Cyrchwyd 2019-11-24.CS1 maint: extra text: authors list (link)
- ↑ Travers, Penny (2016-12-19). "The history of the Christmas tree". ABC News. Cyrchwyd 2019-11-24.
- ↑ "The History of the Christmas Tree at Windsor". www.thamesweb.co.uk. Cyrchwyd 2019-11-24.
- ↑ "TREDEGAR ANNUAL BACHELORS BALL - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1850-01-19. Cyrchwyd 2019-11-24.
- ↑ "No title - Llais Y Wlad". Kenmuir Whitworth Douglas. 1875-02-12. Cyrchwyd 2019-11-24.
- ↑ "RHYL - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1876-01-05. Cyrchwyd 2019-11-24.
- ↑ "EBENEZER ABERAFAN - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1879-01-10. Cyrchwyd 2019-11-24.
- ↑ ""A Merry Christmas":". The Times. Llundain. 27 Rhagfyr 1918.
the so-called "Christmas tree" was out of favour. Large stocks of young firs were to be seen at Covent Garden on Christmas Eve, but found few buyers. It was remembered that the 'Christmas tree' has enemy associations
- ↑ Chastagner, Gary A. and Benson, D. Michael (2000). The Christmas Tree.