Eiddew

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eiddew/Iorwg
Hedera colchica (Eiddew Persia)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Araliaceae
Is-deulu: Aralioideae
Genws: Hedera
L.
Rhywogaethau
Hedera helix, yr eiddew cyffredin.

Cydnebir erbyn hyn ddau fath o eiddew yng Nghymru, Prydain ac Ewrop. Fe'u hymdrinir yma gan amlaf yn gonfensiynol fel Hedera helix agg. oni welir rheswm i'w gwahaniaethu fel Hedera helix a H. hibernica.

Planhigyn prennaidd sy'n tyfu'n agos i'r pridd neu'n dringo yw Eiddew neu Iorwg (Lladin: Hedera).

Ffordd o fyw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae’r Eiddew (Iorwg) yn dringo trwy ddefnyddio gwreiddiau sy’n tyfu o’r coesyn. Dywed Wynne mai ond ychydig o neithdar sydd gan flodau’r eiddew ac fe gaiff y blodau eu peillio gan wybed fwyaf am nad oes arnynt angen llawer iawn o fwyd (er fod paill yn llawer mwy maethlon na neithdar!)[1].

Mae dau fath o ddail gan yr eiddew, y dail lled-grynion sy'n cynnal y blodau a'r ffrwythau, a'r dail â thri phigyn iddynt sydd yn anffrwythlon.

Tacsonomeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Barnwyd tan yn ddiweddar i'r eiddew ymrannu i ddwy is-rywogaeth, ond yn ôl y farn ddiweddaraf, fe'u hymrennir yn ddwy rywogaeth gyflawn Hedera helix is-rh. hibernica, eiddew/iorwg yr Iwerydd, a Hedera helix is-rh. helix, eiddew/iorwg cyffredin. .

Ecoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae lle arbennig i’r eiddew H. helix agg. yn ecoleg y goedwig ac yng nghefn gwlad yn gyffredinol. Sail yr arbenigrwydd yma yw ei ffenoleg, ei dymor blodeuo yn yr hydref) a ffrwytho ffrwytho yn y gwanwyn), a’r ffaith ei fod yn fythwyrdd.

Ffenoleg
Mae’r eiddew yn blodeuo yn yr hydref ac yn ffrwytho yn y gwanwyn a thrwy hynny yn cynnig manteision ecolegol pwysig. Mae’r blodau felly yn cynnig paill i bryfed ar adeg pan fo paill fel arall yn brin. Yn yr un modd mae ffrwythau yn y gwanwyn yn cynnig bwyd maethlon i adar (ysguthanod, bronfreithod ayb.). Mae manteision hyn i’r pryfed ac i’r adar yn amlwg. Llai amlwg efallai yw’r manteision i’r planhigyn ei hunan. Mae’n debyg mai osgoi cystadleuaeth am wasgarwyr paill a hadau sydd i gyfrif am patrwm hyn.

Gwyrddni gaeaf

Mae’r eiddew yn un o’r ychydig blanhigion prennaidd yng Nghymru sydd yn cadw ei ddail drwy’r flwyddyn.

Mae’r Gorfanhadlen Eiddew (Orobanche hederae  Ivy Broomrape) barasitig sy’n nodweddiadol o arfordir Cymru a de-orllewin Lloegr, yn sugno maeth o wreiddiau’r eiddew[2].

Dosbarthiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Y planhigyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Meddygaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dibynnir yn yr adran hon ar dystiolaeth safonol Ann Elizabeth Williams [3]

Y Llygaid a’r Glust:

‘’Dywedodd Mrs Margaret Jennie Thomas, Llwyncynhyrus, Llanymddyfri, mai plastr o ddaul iorwg neu eiddew wedi’u pwnio a roddwyd ar lugaid ei thad i dynnu’r boen pan dasgodd pyg berwedig drosto unwaith wrth iddo farcio defaid’’

‘’Defnyddid [llysiau pen tai] ar y cyd â dail eiddew yn ôl tystiolaeth o Ferthyr Tydfil: cymysgid sudd y ‘dail gerllysg’, fel y’u gelwid, gyda thrwyth ‘dail iddia’ wedi’i hidlo, ac ychwanegid ychydig o hufen at y cymysgedd cyn rhoi diferyn ohono yn y glust’’

Llên Gwerin[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel un o'r ychydig blanhigion prenaidd bythwyrdd cynhenid yng Nghymru (y gelynen Ilex aquifolium a'r ferywen Taxus baccata yw'r lleill) mae ei arwyddocad mewn llen gwerin yn deillio yn bennaf o'r ffaith bod ei ddail yn fythwyrdd.

Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Hedera helix is-rh. hibernicaiorwg yr IweryddegAtlantic ivy

Hedera helix is-rh. helixiorwgegcommon ivy

Botanical template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Wynne, G. (2017) Blodau Cymru: Byd y Planhigion (Gwasg y Lolfa)
  2. Wynne, G. (2017) Blodau Cymru: Byd y Planhigion (Gwasg y Lolfa)
  3. Williams, AE (2016): Meddyginiaethau Gwerin Cymru (Gwasg Y Lolfa)