Celyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Celyn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Aquifoliales
Teulu: Aquifoliaceae
Genws: Ilex
Rhywogaeth: I. aquifolium
Enw deuenwol
Ilex aquifolium
L.

Coeden fythwyrdd gyda dail pigog ac aeron coch yw celyn neu'r gelynnen (enw gwyddonol: Ilex aquifolium).

Mae'r goeden fechan hon yn gysylltiedig â'r Nadolig; yn aml iawn, yr unig addurn a arferid ei gael mewn tŷ fyddai clwff (neu gangen) o gelyn. Enw arall arni ydy'r 'gelynnen' a cheir y ffurf 'celynnin' fel sydd yn yr enw Llangelynnin hefyd. Ceir cân werin o'r un enw; dyma'r pennill cyntaf (sylwer ar yr odl fewnol rhwng y drydedd a'r bedwaredd linell):

Fy mwyn gyfeillion dewch yn llu,
Mae'n bryd i mi ganmol y glasbren;
Pren canmolus, gweddus gwiw
A'i henw yw 'y gelynen'.[1]

Mae'n frodorol o orllewin a de Ewrop, gogledd-orllewin Affrica a de-ddwyrain Asia,[2][3] ac fe'i gwelir yn aml mewn llefydd cysgodol, yn enwedig mewn coedwigoedd o goed ffawydd. Er hyn, gall addasu i gynefinoedd, amgylchiadau a hinsawdd gwahanol yn enwedig ar ffiniau coedwigoedd.

Llwyn neu goeden fach, bythwyrdd, y dail isaf yn bigog, y rhai uchaf yn llai felly. Y blodau gwryw a benyw yn tyfu ar goed gwahanol. Yr aeron (ar y coed benywaidd) yn wyrdd i ddechrau ac wedyn yn goch. Aeron y celyn yw'r rhai mwyaf parhaus o holl aeron ein llwyni cynhenid, weithiau yn para ymhell heibio'r gaeaf i'r gwanwyn canlynol a hyd yn oed yr haf. Bonfreithod megis y gaseg ddrycin a'r socen eira sydd yn bennaf gyfrifol am eu parhad mae'n debyg trwy eu hamddiffyn rhag eraill. Coeden y goedwig a phridd cyfoethog ac ychydig o bori yw'r celyn.


Ecoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw'r gelynen yn dygymod yn dda a phori, ac fe ddiflana ar ôl troi anifeiliaid i goedwig am gyfnod.


Rhywogaethau cysylltiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bwyd i lindysyn glöyn y glesyn celyn Celastrina argiolus. Y genhedlaeth gyntaf yn cael ei dodwy ar flagur blodau'r celyn yn y gwanwyn, a'r ail genhedlaeth ar flagur blodau'r eiddaw, sydd yn ymddangos yn hwyrach yn y flwyddyn.


Caiff ei heintio'n gyson gan y llifbryf Phytomyza ilicis.


Cymunedau llysieuol cusylltiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Enw safonol Cymraeg

celyn

Enw Lladin (yn unol â dull Stace)

Ilex aquifolium

Enwau Cymraeg eraill gan nodi o ba ardal Dim?
Tarddiad yr enwau, geiriau cysylltiedig a chytras

Hen Gernyweg: kelin, gl. ulcia, Llydaweg: Kelen, Gwyddeleg. Cuilenn: <Clt. Kolino-, cf. Saes. Holly, taf. Hollin, o'r gwraidd *qel, gwanu

Enwau Ileoedd, pobl, ac ati[golygu | golygu cod y dudalen]

Wrth ddehongli enwau lleoedd dylid bod yn ymwybodol o'r dryswch posibl gyda'r Sant Celynin (Llangelynin, Tywyn; Aber Garth Celyn, sef hen enw honedig Abergwyngregyn), a chyda chyfeiriadau at "gelyn" (ee. Hafod y Gelyn, cwm Anafon, Llanfairfechan; Tafarn y Gelyn, Sir Ddinbych). Gall hefyd olygu pidyn neu cala. Mae ''Clynnog'' Fawr yn Arfon yn golygu, efallai, lle yn gyforiog o gelyn.


Dyma ddadansoddiad o 105 o enwau sydd yn cynnwys celyn yn yr OS 1:10000 Gazeteer wedi eu dosbarthu yn ôl y gair mae'n goleddfu. Mae 14 o enwau yn gysylltiedig a thir sydd yn codi (bryn, boncyn, cam, gallt, ffridd, banc, esgair, rhos), 15 yn gysylltiedig a thir isel neu gysgodol (pant, maes, fron, cwm, dol, cil, glyn), 29 yn gysylltedig a thir coediog (llwyn, celynnog, perth, gallt, coed, gelli), a 36 yn gysylltedig ag anheddle (ty(n), fferm, plas, pentre, bwthyn, cwrt). At ei gilydd, awgryma hyn efallai mai coeden oedd y gelynen a arferai gael ei gweld fel aelod o goedwig neu gyfar a estynnodd gysgod i'r ty ac na chaniatawyd da i fewn iddi (gweler 14.)


Mae'r enwau hyn yn digwydd yn weddol wastad ar draws de a gogledd Cymru. Eithriad yw'r ardaloedd lle maent yn denau neu'n absennol megis gorllewin Penfro, Llŷn a Môn, a'r gogledd ddwyrain lle maent yn fwy trwchus, yn arbennig Ile mae'r calch yn brigo ar fynyddoedd Clwyd.


Yn achos yr enw "Ty'n Celyn" ceir yn y Gazeteer 26 o achosion, 10 yn Sir Ddinbych, 7 yn Sir Conwy, 5 ym Mhowys, 2 yng Ngwynedd, ac 1 yng Nheredigion a Wrecsam. Ymddengys fod y patrwm hwn yn yn dilyn y tiroedd gorau.


Ystyr plas Celynnenau (ar lafar "Clenna") yn Eifionnydd yw 'nifer o goed celyn unigol'. Ystyr 1794 Celynawg yw 'cyforiog o gelyn' (=abounding in holly). Mae'n digwydd yn gyffredin fel enw lle, ee. Clynnog Fawr yn Arfon, Clynnog Fechan ger Llangeinwen, Mon, Glynnog ger y Gyffin, Caernarfon, Gelynnog ym mhlwyf Llantrisant, Morgannwg, &c.


Kylynen c. 1700, Lhuyd Paroch. II.43


Nant Cyflymed [sic] c. 1830, O.S.M. Nant fechan yn codi i'r gorllewin o Ros Pengwern ac yn rhedeg i'r Ddyfrdwy ychydig tu isaf i Langollen. Diamau mai'r un ydyw enw'r nant hon ag enw'r pren celynen .....am fod, yn of pob tebyg, amlder o'r cyfryw yn tyfu hyd ei glannau . Cyfyd nant fechan o'r enw Celyn (Meir.), Afon Gelyn (OSM), Kelin... yrn Mlaen Celyn ar Arennig Fechan, gan ddisgyn heibio i Bont ar Gelyn a Chapel Celyn i Dryweryn i'r gorllewin o Gil Talgarth. Yn y ffurf Cylynen gwelir y llafariad e yn y sillaf gyntaf ddiacen >y dywyll. Am ffurfiau mapiau Cyflymed, Cyflymen, ymgais ydynt i roi tro fransiol i'r enw.3


Llen Gwerin[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Aferion a choelion

Fe'i defnyddir yn gyffredin i addurno tai a lleoedd cyhoeddus dros wyliau'r Nadolig GPC.

Yng Nghlarach ger Aberystwyth roedd ffermwr o'r ardal wedi gweld ei dad yn gwneud twll bychan yng nghlust buwch a fyddai'n cau sefyll tarw (ddim yn cyfloi) ac yn clymu cylch o gelyn yn y twll (Tystiolaeth lafar: J. Ll. Jones, 21 Mehefin 1977): J.[4]


  • Arferion plant

Dim wedi eu canfod eto


  • Arwyddion tywydd a thymhorau

Dim wedi eu canfod eto

Cyfeiriadau hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r cyfeiriadau canlynol o GPC[5]

• 13g. T21 3-4, pan yw glas kelyn

• id. 25 4, ffawyd ffynyessit, kelyn glessyssit [cyfeiriad diddorol at ecoleg y rhywogaeth hon a'i thuedd (gywir) i gydfyw â ffawydd? DB]

• 1346 IAA 124, a hwnnw arodes....yduw abeuno. Ydref ehun a elwit kellynnawc yn dragywydawl. Heb val a heb ardreth.

• 14g. Rbii. 262, Ac y diffeithwyt lleyn a [diwyg.] kelynawc uawr y gan howel vab Ieuaf ar saeson.

• 14g. R 1047 15-16, Kynn bu vygkylchet croennen rcliwygl gauyr galet. Kelyngar y llillen

• 14g. GDG 83, Y celynllwyn coel iawnllwyth.

• 1620 Mos 204, 21, bwrw gordd dan gelyn-llwyn.

• 13g. WM 117. 26-8 yr forest hir beunyd yd ai y mab y chware ac y daflu agaflacheu kelyn

• 14g. RB[WM] 202, 20-1, agwrysc kelyn yn amyl ar y llawr.

• ?15g. DGG 43 Dwy sêl o liw grawn celyn. • 1445-75 GG1 15, A bwrw gordd berw ac urddas / Awen dan gelynnen las.

• 15g. H 71a. 48, llys kelynen kelynnyc.

• 1547 WS, kelynen, holy

• 1608 GP 223, A ddoi di, a ddoi di oddiyna / i goed y glyn i gylyna [tybed pam yr eid "i gylyna"?]

• 1632 D(Bot.), celyn, aquifolium.

• Digwydd fel enw person Celyn ar garreg Tywyn, c. 750 Arch. Camb (1949) 168, Cun Ben Celen, a hefyd yn y ff. fach. Celynnin

Meddygaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhywogaeth o'r un genws, sef Ilex paraguariensis yn cael ei ddefnyddio fel mate (diod) yn ne America (gan y Cymru?). Mae'r dail yn cynnwys caffin sydd yn gweithredu i fywiogi'r system nerfol a chyhyrol. Maent hefyd efo rhinweddau diwretig.


Cynhwysa'r aeron y tocsin ilicin sydd yn achosi cyfog a dolur rhudd. Dim achosion o wenwyno anifeiliaid wedi eu cofnodi and gall gymeryd rhagor na 20 o aeron achosi symptomau ilicin. Os cymerir niferoedd mawr o aeron dylid achosi cyfogi gyda emetig addas fel surop ipecacuanha.2

Meddyginiaethau a gasglwyd gan Anne Elizabeth Williams (Amgueddfa Werin Cymru)[6][golygu | golygu cod y dudalen]

Annwyd, Dolur Gwddf a Niwmonia

Credid bod y lliw coch yn meddu ar rinweddau gwarchodol a'i fod felly yn gallu amddiffyn y sawl a'i gwisgai rhag afiechydon a phwerau gwrthnysig. Gwelir bod gan amryw o blanhigion gwarchodol megis celyn neu griafol arron cochion.... Mae'n symbol o'r ddaear, bywyd da, a gwres[7]

Y Crwp, y Pâs a'r Ddarfodedigaeth
  • Y Pâs

Gwyddaii hen löwr o Abertyswg, Rhymni, am dri gwahanol de a ddefnyddid at y pâs: te wedi'i wneud o ddail ac aeron y gelynnen, te o'r planhigyn clust y llygoden, a llwynhidydd (Tâp AWC 7463: Mrs Edith Maud Jones [ac eraill], Pant y dŵr, Rhaeadr Gwy).

  • Asthma a Mygdod

Crybwyllodd hen löwr o Abertuswg, Mynwy, y defnyddid aeron y gelynnen fel meddyginiaeth (Tâp AWC 3005)

Y Gwaed

Disgrifia AEW traddiodiadau fflangellu â chelyn yn gysylltiedig â Gwyl San Steffan (weithiau y Calan) o'r de a'r Gororau. Olrheinir rhain i'r ffydd Baganaidd a addaswyd at ddefnydd Cristnogol. Sylwer meddai maio rannau mwyaf Seisnig y de-orllewin ar y cyfan y cafwyd y cyfeiriadau at waedu merched â chelyn (tarddiad o Loegr?) tra bo'r cyfeiririadau at chwipio,r person olaf i godi yn perthyn i'r Gororau. Traddodiad ar wahan efallai gan tua hanner y siaradwyr a holwydoedd chwipio'r traed â chelyn hyd at waed fel triniaeth at losg eira, i gael gwared â'r gwaed drwg. Nid yw'n amlwg yn y traddodiad hwn ai cyfrwng yn unig oedd y celyn ynteu bod iddo arwyddocad amgenach. Gwnaeth un gwr y sylw y defnyddid celyn (yn lle eithin) i'r diben hwn fel rheol yn ystod y gaeaf ac ambell waith yn y gwanwyn, pe ceid llosg eira pan oedd yr eithin yn dechrau glasu (Tap AWC 6923: John Richard Jones, Brynsiencyn

Afiechydon y Croen

Un triniaeth at ddrywinen oedd llosgi pren celyn a rhoi'r llwch ar ddefnydd wedi'i ddeifio, er mwyn ei ddiheintio mae'n debyg, a'i osod ar ddrywinen (Tystiolaeth lafar: William Wyn Jones, Llansannan, 9 Tach 1982)

Defnydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bwyd

Mae cynnwys caloriffig uchel i'r dail, a'r tyfiant ifanc wedi bod yn cael ei dorri i borthi anifeiliaid, yn enwedig defaid [MT].


Offer

Pren caled gwyn y niweidir gan ormod o olau [ ]. Defnyddir hi yn bennaf ar gyfer addurn ac mewn osod (inlay) i bren arall.


Mae'r pren yn galed a thrwm, efo graen clos iawn, o liw gwyn, addas ar gyfer turnio o bob math.


Mewn gwaith addurniadol mewnosod (inlay) defnyddir yn lle pren bocs ac wedi ei lifo'n ddu yn lle eboni.


Coeden dda i wneud ffyn ohonni, a chan fod hen gred fod ganddi rym hudol dros geffylau, i wneud chwipiau i'w gyrru [MT].

Arall

Roedd gan John Evelyn yn ei Sylva enwog rysait am wneud glud adar (bird lime) o risgl celyn. Rwyf innau'n cofio fel plentyn yn y 30au yn gweld dynion yn Llanfrothen yn ceisio dal llinosiaid a nicos ar frigau gludiog efo llinos mewn cawell i'w dennu [MT].


Gerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Y mwyaf deniadol a defnyddiol o'n coed bythwyrdd brodorol yn yr ardd. Mae dros driugain o amrywiadau ar gael, yr euron yn amrywio yn eu lliw o felyn, trwy oren, i'r coch cyffredin, y dail hwythau o fod yn bigog iawn, hyd yn oed ar wyneb y ddeilen i fod yn hollol lyfn, a'r lliw o fod yn frith felyn llachar i frith arian, i'r gwyrdd tywyll sgleiniog cyffredin [MT].


Addurn a delweddau/symbolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Poblogaidd iawn fel addyrn y Nadolig. Arferiad cyn-gristnogol mae'n debyg, oherwydd arwyddocad ei wyrddni gefn gaeaf (fel yr eiddaw). Dros wyliau'r Nadolig, cymysgedd o arferion efo'r amseriad, yn enwedig o gwmpas pryd i'w tynnu i lawr, yr Hen Galan (6ed Ionawr) erbyn hyn, and Gwyl Fair y Ganhwyllen (2 Chwefror) mewn rhai llefydd gynt, a son yn Ynys Manaw am ei cadw tan Ddydd Mawrth Crempog (Ynyd), a'i defnyddio'n grin i wneud crempog, defnydd da o'i wres anarferol hwyrach [MT].


Teithi tramor[golygu | golygu cod y dudalen]

Houx yn Ffrangeg.


Hanesyddol ac archaeolegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Awduron[golygu | golygu cod y dudalen]

Duncan Brown, y diweddar Maldwyn Thomas (MT), Ann Daniels (AD)


Cyfeiriadau, ffynonellau, Ilyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Girre L. (2001) Les Plantes et !es Medicaments Paris 2
  • Cooper M. & Johnson A. (1984) Poisonous Plants in Britain and their effects on Animals and Man HMSO *Geiriadur Prifysgol Cymru 3
  • Thomas R.J. (1938) Enwau Afonydd a Nentydd Cymru Caerdydd

Sent from Yahoo Mail for iPhone


Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gwreiddiau'r gair yn yr hen Gelteg: kolino, ac fe'i ceir yn yr Hen Gernyweg "kelin", yn Llydaweg ("kelen") ac yn y Wyddeleg ("kelen").[8] Cymharer gyda'r gair Celtaidd "qel" a olygai "pigo", "gwanu".

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Welsh Traditional Music gan Phyllis Kinney; Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru google.co.uk; adalwyd Rhagfyr 2016.
  2. Flora Europaea: Ilex aquifolium
  3. Med-Checklist: Ilex aquifolium
  4. Williams, A.E. (2017) Meddyginiaethau Gwerin Cymru Y Lolfa
  5. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
  6. Williams, A.E. (2017) Meddyginiaethau Gwerin Cymru Y Lolfa
  7. John B. Hutchins, Colour and Appearance in Nature, Color research and application, 11, rhifyn 2 (1986), 122
  8. Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC); adalwyd Rhagfyr 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Tree template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am goeden. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.