Poinsetia
Gwedd
| Poinsetia | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
| Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
| Ddim wedi'i restru: | Rosids |
| Urdd: | Malpighiales |
| Teulu: | Euphorbiaceae |
| Genws: | Euphorbia |
| Rhywogaeth: | E. pulcherrima |
| Enw deuenwol | |
| Euphorbia pulcherrima Willd. ex Klotzsch | |
Planhigyn o'r teulu Euphorbiaceae yw'r poinsetia (lluosog: poinsetias;[1] Lladin: Euphorbia pulcherrima) sy'n frodorol i Fecsico a Chanolbarth America. Yno, gall dyfu hyd at 16 troedfedd o daldra. Yr enw lleol arno ydy flor de la noche buena, 'blodyn y Nadolig'.
Mae ei ddail coch a gwyrdd yn boblogaidd, bellach drwy Ewrop, adeg y Nadolig. Daw ei enw o Joel Roberts Poinsett, a gyflwynodd y planhigyn i'r Unol Daleithiau pan oedd yn y llysgennad Americanaidd yng ngweriniaeth annibynnol Mecsico rhwng 1825 ac 1829.[2]
Tyfu'r Poinsetia
[golygu | golygu cod]Gall y Poinsetia fod yn sensitif iawn; dylid ei gadw wyneb y compost yn llaith, drwy ei ddyfrio pan fo'n dechrau sychu. Awgryma'r naturiaethwyr hefyd chwistrellu tarth ysgafn ar y dail bob yn ail ddiwrnod.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [poinsettia].
- ↑ (Saesneg) poinsettia. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2014.
- ↑ Gwefan y-cymro.com (Y Cymro); colofn Gerallt Pennant; adalwyd 30 Rhagfyr 2016.
