Thomas Christopher Evans

Oddi ar Wicipedia
Thomas Christopher Evans
Ganwyd28 Rhagfyr 1846 Edit this on Wikidata
Llangynwyd Edit this on Wikidata
Bu farw24 Gorffennaf 1918 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhynafiaethydd, arbenigwr mewn llên gwerin Edit this on Wikidata

Hynafiaethydd Cymreig oedd Thomas Christopher Evans (28 Rhagfyr 184624 Gorffennaf 1918), a adnabyddir hefyd wrth ei lysenw "Cadrawd". Ei brif ddiddordebau oedd hanes Morgannwg a llên gwerin Cymru. Roedd y nofelydd Saesneg Frederic Evans ("Michael Gareth Smith") yn fab iddo.[1]

Fe'i ganed ym mhlwyf Llangynwyd, Morgannwg. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth. Cyfrannai'n gyson i gylchgronau Cymraeg fel Cyfaill yr Aelwyd a Cymru. Ysgrifennai erthyglau ar hanes Morgannwg i bapurau Saesneg Caerdydd. Cyd-olygodd y gyfrol Hen Gwndidau. Ei brif waith yw ei lyfr Saesneg ar hanes plwyf Llangynwyd, a gyhoeddwyd yn 1887.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gwaith Cadrawd[golygu | golygu cod]

  • The History of the Parish of Llangynwyd (1887)
  • Gol. gyda L. J. Hopkin Jones, Hen Gwndidau (1910)
  • Gol., Iolo Morganwg (Cyfres y Fil, 1913)

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

  • Brynley F. Roberts, Darlith Goffa Henry Lewis: Cadrawd - Arloeswr Llên Gwerin (Prifysgol Cymru, Abertawe, Mawrth 1997)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.