John Dyfnallt Owen
| John Dyfnallt Owen | |
|---|---|
| Ffugenw | Dyfnallt |
| Ganwyd | 7 Ebrill 1873 Llan-giwg |
| Bu farw | 28 Rhagfyr 1956 Aberystwyth |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd, gweinidog bugeiliol, Archdderwydd |
| Plant | Meirion Dyfnallt Owen, Geraint Dyfnallt Owen |
Gweinidog, llenor a bardd Cymraeg oedd John Dyfnallt Owen, enw barddol Dyfnallt (7 Ebrill 1873 – 28 Rhagfyr 1956).[1]
Ganed Dyfnallt yn Llangiwg, Morgannwg, yn fab i Daniel ac Angharad Owen. Collodd ei fam pan oedd yn flwydd oed a magwyd ef gan rieni ei dad. Addysgwyd ef yng Nghwmllynfell a bu'n lowr am gyfnod, cyn mynd i Academi Parcyfelfed, Caerfyrddin, ac wedyn i Goleg Bala-Bangor yn 1894. Daeth yn wedinidog i'r Annibynwyr ym mhentref Trawsfynydd o 1898 hyd 1902, a bu'n ddylanwad ar Hedd Wyn. Symundodd wedyn i Ddeiniolen, lle bu hyd 1905, gan ddod i adnabod T. Gwynn Jones a W. J. Gruffydd. Yn 1904 priododd Annie Hopkin, a chawsant ddau o blant.
Yn 1905 symudodd i Bontypridd, a thra yno enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1907 am gerdd ar Y Greal Santaidd. Daeth yn aelod o'r Gyngres Geltaidd yn 1908. Yn 1910 symudodd i Gaerfyrddin, lle bu'n byw hyd at ei ymddeoliad. Daeth yn olygydd Y Tyst yn 1927. Wedi'r Ail Ryfel Byd, rhoddodd loches yn ei gartref i Roparz Hemon, oedd wedi gorfod dianc o Lydaw. Etholwyd ef yn Archdderwydd yn 1954 yn Y Rhyl.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Y greal a cherddi eraill (1946)
- Ar y tŵr (1953)
- O ben tir Llydaw (1934)
- Min yr hwyr (1934)
- Rhamant a rhyddid (1952)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geraint Elfyn Jones (1997). "Owen, John Dyfnallt (1873-1956), gweinidog (A), bardd, llenor, newyddiadurwr ac Archdderwydd Cymru". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2025.