Ynys Wen, Seland Newydd
Gwedd
| Math | volcanic island |
|---|---|
| Poblogaeth | 0 |
| Cylchfa amser | UTC+12:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3.25 km² |
| Uwch y môr | 321 metr |
| Gerllaw | Bay of Plenty |
| Cyfesurynnau | 37.52°S 177.1825°E |
| Hyd | 2.5 cilometr |
| Amlygrwydd | 321 metr |
![]() | |
Ynys folcanig yn Seland Newydd yw Whakaari (neu Ynys Wen), sydd wedi'i lleoli 48 km (30 mi) o arfordir dwyreiniol Ynys y Gogledd ym Mae Digonedd (Māori: Te Moana-a-Toi). Mae'r ynys yn 3 km o ran hyd ac mae ei lled yn 2km, gydag arwynebedd oddeutu 325 hectr.[1]
Ar 9 Rhagfyr 2019, cafodd llawer o bobol eu lladd pan ffrwydrodd y llosgfynydd yn sydyn.[2] Roedd llawer o dwristiaid yn ymweld â'r llosgfynydd pan ffrwydrodd. Mae un ar bymtheg o gyrff wedi eu canfod.
Ar ôl damwain 2019, dwedodd Jacinda Ardern, Prif Weinidog Seland Newydd: "Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio."

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Scheffel, Richard L.; Wernet, Susan J., gol. (1980). Natural Wonders of the World. United States of America: Reader's Digest Association, Inc. tt. 412. ISBN 978-0-89577-087-5.
- ↑ "Llosgfynydd: Dinasyddion o wledydd Prydain ymhlith y rhai sydd ar goll". Golwg360. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2019.
