Amy Parry-Williams

Oddi ar Wicipedia
Amy Parry-Williams
Ganwyd18 Rhagfyr 1910 Edit this on Wikidata
Pontyberem Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ionawr 1988 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, awdur Edit this on Wikidata
PriodT. H. Parry-Williams Edit this on Wikidata

Cantores, awdures a merch o Bontyberem, Caerfyrddin oedd Amy Parry-Williams (Emiah Jane Thomas cyn priodi; 18 Rhagfyr 191028 Ionawr 1988).

Hi oedd yr hynaf o dri phlentyn Lewis Thomas a Mary Emiah (née Jones). Roedd yn wraig i'r bardd T. H. Parry-Williams; ni chawsant blant. Fe'i hadnabyddwyd drwy ei hoes fel 'Amy'.[1]

Wedi cyfnod yn Ysgol Ramadeg y Merched yn Llanelli aeth i Brifysgol Aberystwyth ble cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg yn 1932. Wedi cyfnod byr yn dysgu yn ei hen ysgol yn Llanelli, bu'n darlithio yng Ngholeg Hyfforddi'r Barri. Yn Awst 1942 priododd yr Athro T. H. Parry-Williams a oedd yn bennaeth yr Adran Gymraeg yn Aberystwyth.

Bu'n canu penillion ers oedd yn blentyn ifanc, diolch i'w thad, a chystadleuoedd droen mewn eisteddfodau, gan gynnwys y Genedlaethol, gyda'i thad yn eu gosod ar gerdd dant. Chwaraeodd ran amlwg mewn perfformiad coleg o'r opera Rhosyn y Coleg.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 4 Mawrth 2016
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)