Howard Hughes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Howard Hughes
Howard Hughes yn Chwefror 1938
Ganwyd Howard Robard Hughes, Ieuengaf
24 Rhagfyr 1905
Humble, Texas, UDA
Bu farw 5 Ebrill 1976 (70 oed)
ar ei ffordd i Houston, Texas, UDA
Man gorwedd 'Mynwent Glenwood', Houston, Texas
Cartref Houston, Texas
Cenedl Unol Daleithiau America
Addysg Thacher School
Alma mater Coleg Technoleg California
California Institute of Technology
Prifysgol Rice (gadael cyn orffen, 1924)[1]
Gwaith Cadeirydd a Phrif Weithredwr Summa Corporation
Sefydlydd The Howard Hughes Corporation
Sefydlydd Hughes Aircraft Company
Sefydlydd Howard Hughes Medical Institute
Gweithgar 1926–1976
Tref genedigol Houston, Texas
Net worth $1.5 biliwn (gwerth heddiw: $6.22 doleri Americanaidd). Ar ei farwolaeth - tua 1/1190fed GDP yr Unol Daleithiau)[2]
Aelod o fwrdd Hughes Aircraft,
Howard Hughes Medical Institute
Priod Ella Rice (pr. 1925–29)
Terry Moore (pr. 1949–76) (honiedig)
Jean Peters (pr. 1957–71)
Llofnod
Aviation career
Enwog am Hughes Aircraft; Ffilmiau.
Ehediad enwocaf Hughes H-4 Hercules ( Spruce Goose), Record am hedfan rhyng-gyfandirol o Los Angeles i Newark NJ (1937); record am hedfan rownd y byd (1938)
Gwobr/au Gwobr Academi (1928)
Harmon Trophy (1936 a 1938)
Collier Trophy (1938)
Congressional Gold Medal (1939)
Gwobr Octave Chanute (1940)
National Aviation Hall of Fame (1973)

Roedd Howard Robard Hughes, Jr. (24 Rhagfyr 19055 Ebrill 1976) yn ŵr busnes ac yn entrepreneur Americanaidd o dras Cymreig, a oedd a diddordeb mawr mewn awyrenau, buddsoddi, peirianneg a chreu ffilmiau. Daeth i amlygrwydd bydeang yn y 1920au yn y 1920au drwy greu ffilmiau yn Hollywood - rhai drudfawr ac yn aml - dadleuol ee The Racket (1928), Hell's Angels (1930), Scarface (1932), a The Outlaw (1943). Yn ystod ei oes, roedd yn un o bobl gyfoethoca'r byd, gan wneud ei arian ei hun yn hytrach na thrwy etieddu arian.

Ymhlith ei gariadon roedd: Billie Dove, Bette Davis, Ava Gardner, Olivia de Havilland, Katharine Hepburn, Ginger Rogers a Gene Tierney; gofynnodd i Joan Fontaine ei briodi sawl tro, heb fawr o lwc.

Yn dilyn hyn, ffurfiodd The Hughes Aircraft Company a huriodd lawer o beiriannwyr a chynllunwyr. Treuliodd weddill y 1930au yn sefydlu sawl record hedfan, cynhyrchodd yr Hughes H-1 Racer a'r H-4 "Hercules" (a adnabyddir ar lafar fel y "Spruce Goose") a phrynodd ac ehangodd y Trans World Airlines (TWA), a werthwyd yn ddiweddarach i gwmni American Airlines[3]. Prynodd hefyd Air West a'i ailenwi'n Hughes Airwest; gwerthodd y cwmni hwn yn ei dro i Republic Airlines (1979–1986).

Rhestrwyd Hughes yn rhestr y Flying Magazine o 50 'Arwr y Byd Hedfan', gan ddod yn 25fed.[4] Fe'i cofir yn benaf am ei arian anhygoel, ei ymddygiad ecsentrig, gwahanol ac am dreulio'i flynyddoedd olaf fel meudwy. Etifeddwyd ei waddol ariannol gan elusen a sefydlodd i ymchwilio i ddatblygiadau meddygol: Howard Hughes Medical Institute.

Cyndadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd ei dad, Howard Robard Hughes, yr Hynaf (9 Medi 1869 – 14 Ionawr 1924), hefyd yn ŵr busnes a ffurfiodd Hughes Tool Company, a'i daid Felix Turner Hughes (10 Tachwedd 1837, Millstadt, Illinois – 19 Hydref 1926, Los Angeles, California), yn farnwr. Cyn hynny bu Felix yn filwr ym Myddin yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America, ac roedd yn fab i Joshua Waters Hughes (g. 15 Hydref 1808) a Martha Askins; roedd yn ofaint.[5][6] Ganwyd ei dad William Hughes tua 1780, priododd tua 1807, Judith Hughes, (g. 1790), merch Josiah Hughes).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Simkin, John. "Howard Hughes". Spartacus Educational. Adalwyd: 9 Mehefin 2013.
  2. Klepper and Gunther 1996, tud. xiii.
  3. http://history1900s.about.com/od/people/p/hughes.htm
  4. "51 Heroes of Aviation." Flying magazine; adalwyd Rhagfyr 2014.
  5. www.genealogy.com; adalwyd Hydref 2015
  6. Gweler: "Genealogy of Howard Robard Hughes Jr" gan Mary Smith Fay, yn y National Genealogical Quarterly, Mawrth 1983, Cyfrol 71 #1, tud 5-12.