Meghan Trainor
Meghan Trainor | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 22 Rhagfyr 1993 ![]() Nantucket ![]() |
Label recordio | Epic Records, Kemosabe Records, RCA Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr, cynhyrchydd recordiau, cerddor, cyfansoddwr ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, cyfoes R&B, pop dawns, cerddoriaeth yr enaid ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau ![]() |
Gwefan | https://www.meghan-trainor.com ![]() |
Cantores, cyfansoddwraig caneuon a chynhyrchydd recordiau yw Meghan Elizabeth Trainor (ganwyd 22 Rhagfyr 1993). Ganwyd yn Nantucket, Massachusetts i Gary a Kelli Trainor. Roedd ei thad yn dysgu cerddoriaeth am wyth mlynedd, a nawr mae'n chwarae'r organ yn ei eglwys. Aeth Meghan i ysgol 'Nauset Regional High School', gyda'i dau frawd. Roedd eisiau bod yn gantores ers roedd hi'n unarddeg, a gwireddwyd ei dymuniad pan arwyddodd gyda'r cwmni Epic Records. Gyda'r cwmni, rhyddhaodd llawer o ganeuon, wedi eu hysbrydoli gan gantorion enwog fel Frank Sinatra, Ariana Grande, Christina Aguilera a Bruno Mars.
Caneuon[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan Meghan bedair albwm: 'Title', 'Only 17', 'I'll Sing With You', a 'Title' (EP). Rhyddhaodd ei sengl gyntaf ' All About That Bass', ar 30 Mehefin 2014 a'i hail sengl ('Lips Are Movin') ar 21 Hydref 2014, a'i sengl 'Dear Future Husband', ar 17 Mawrth 2015.
Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Meghan Trainor wedi ennill llawer o wobrau gwahanol, gan gynnwys: 'Youtube Music Award', 'Top Hot 100 Songs', 'Top Digital Song', a 'Most Performed Songs'.
Gwefannau cymdeithasol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Meghan yn enwog iawn ar wefannau cymdeithasol ac mae ganddi lawer o ddilynwyr ar 'Instagram', 'Twitter', 'Facebook','Snapchat' a 'Tumblr'.
YouTube[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Meghan Trainor wedi rhoi llawer o fideos ar YouTube, e.e. fideos o'i chaneuon, cyfweliadau gyda newyddiadurwyr cylchgrawn neu bapur newydd. Uwchlwythodd hefyd eiriau ei chaneuon, a fideos o Meghan ar lwyfan mewn cyngherddau. Mae ganddi dros filiwn o ddilynwyr ar 'Youtube'.