Cristiolus

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cristiolus
Eglwys St Cristiolus Church, Llangristiolus.jpg
Ganwyd 6G Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth mynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 3 Rhagfyr Edit this on Wikidata
Tad Hywel fab Emyr Llydaw Edit this on Wikidata

Sant Cymreig oedd Cristiolus (fl. 6g). Dethlir ei ddydd gŵyl ar 3 Rhagfyr.

Yn ôl traddodiad roedd Cristiolus yn un o feibion Hywel fab Emyr Llydaw ac felly'n frawd i Sulien, Rhystud a Derfel Gadarn, ac efallai Dwywe (Dwywau) hefyd. Mae rhai achau yn ei wneud yn fab i Hywel Fychan fab Hywel fab Emyr Llydaw ac yn gefnder i Sant Cadfan.

Cysegrir eglwys Llangristiolus, Môn, ynghyd ag Eglwyswrw a Penrhydd (Sir Benfro), i Gristiolus.