Derfel Gadarn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sant o Gymro oedd Derfel Gadarn (c. 566 - 6 Ebrill 660). Yn ôl Bonedd y Saint roedd yn fab i Hywel ap Emyr Llydaw ac yn frawd i Arthfael. Dywedir iddo astudio gyda'i frawd yn ysgol Illtud Sant yn Llanilltud Fawr. Dethlir ei ddydd gŵyl ar 5 Ebrill, yn flynyddol.

Dywedir iddo gael ei eni yn 566, a'i fod yn un o ddim ond saith o farchogion Arthur i fyw wedi brwydr Camlan. Dywedir iddo fyw oherwydd ei gryfder. Ysgrifennodd Tudur Penllyn amdano:

Derfel mewn rhyfel, gwnai'i wayw'n rhyfedd,
Darrisg dur yw'r wisg, dewr yw'r osgedd.

Canodd Lewis Glyn Cothi i Hywel ap Dafydd ap Goronwy of Gwernan:

Pan vu, a llu yn eu lladd,
Ar Gamlan wyr ac ymladd;
Dervel o hyd ei arvau
A ranau ddur yno'n ddau.[1]

Mewn cerdd o'r 15g dywedir ei fod yn gysylltiedig ag Ynys Enlli a'i fod yn perthyn i Emyr Llydaw; ceir cyfanswm o 46 o gerddi'n cyfeirio ato yn yr Oesoedd Canol. Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol fodd bynnag, cysylltir ef â Llydaw, ond cred rhai (cf. Bartrum 1993, 420: "Llydaw") mai enw ar ardal yn ne-ddwyrain Cymru oedd hwnnw a bod cysylltiad rhyngddo ag eglwys yn Llanfihangel Llantarnam, Sir Fynwy, eglwys nad yw bellach i'w chael. Fel Llandderfel, unwaith roedd hon hefyd yn gyrchfan i bererinion. Nodwyd yn 1535 fod y casgliad yn 26s. 8c yn 'Capella S'ti Dervalli' ac yn archwiliad Maenor Llandimor, yn 1597-8, nodir bod yma ffynnon yn dwyn ei enw.[2]

Eglwysi[golygu | golygu cod y dudalen]

Ei brif sefydliad yw eglwys Llandderfel, ger Y Bala, Gwynedd. Ceir Capel Llandderfel ger Cwmbran hefyd, ond adfail ydyw rwan. Fe'i cysylltir â Brwydr Camlan ac Ynys Enlli hefyd mewn rhai traddodiadau.

Delw Derfel Gadarn[golygu | golygu cod y dudalen]

Cedwid delw o'r sant yn ei eglwys yn Llandderfel. Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern roedd yn cael ei addoli gan y plwyfolion a phererinion a deithiai yno i gael eu gwella o afiechydon. Roedd yn iachau gwartheg hefyd. Roedd yn arferiad cludo'r delw i fyny bryn ger yr eglwys mewn gorymdaith ar y Pasg. Caniateid i blant farchogaeth ceffyl Derfel (efallai i gael ei fendith neu warchodaeth) ar ŵyl mabsant Derfel. Llosgwyd y ddelw yn Llundain yn ystod y Diwygiad Protestannaidd (gweler Llandderfel).]].[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Gwaith, Rhydychen, 1837, t.216, ll.47-50). Gweler hefyd: LBS II.333, n.3.
  2. people.bath.ac.uk; adalwyd 6 Ebrill 2017.
  3. llgc.org.uk; Welsh Classical Dictionary; adalwyd 6 Ebrill 2017.