Rhystud

Oddi ar Wicipedia
Rhystud
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
TadHywel fab Emyr Llydaw Edit this on Wikidata

Sant Cymreig oedd Rhystud (Lladin: Restitus, fl. 6g).

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad roedd Rhystud yn un o feibion Hywel ab Emyr Llydaw ac felly'n frawd i Sulien, Cristiolus a Derfel Gadarn, ac efallai Dwywe (Dwywau) hefyd. Dywedir iddo fod yn esgob yn yr ysgol a sefydlodd Sant Dyfrig yng Nghaerleon. Dethlir ei Ŵyl Mabsant ar y dydd Iau cyn y Nadolig.[1]

Yr unig eglwys a gysegrir iddo yw Llanrhystud, Ceredigion. Dyddia'r eglwys bresennol o'r flwyddyn 1852, ond gellir gweld rhywfaint o olion yr eglwys flaenorol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lives of the British Saints; adalwyd 14 Ionawr 2017.