David Davies, Llandinam

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o David Davies (Llandinam))
David Davies, Llandinam
Ganwyd18 Rhagfyr 1818 Edit this on Wikidata
Llandinam Edit this on Wikidata
Bu farw20 Gorffennaf 1890 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, diwydiannwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
PlantEdward Davies Edit this on Wikidata
David Davies (Llandinam)

Un o ddiwydiannwyr mwyaf llwyddiannus Cymru yn y 19g oedd David Davies (Llandinam) (18 Rhagfyr 1818 - 20 Gorffennaf 1890). Fe'i ganwyd yn Llandinam, Sir Drefaldwyn a chafodd ei alw'n Top Sawyer neu Davies yr Ocean, ar ôl The Ocean Coal Company yn ogystal â'i llysenw mwy adnabyddus. Roedd yn Aelod Seneddol dros Geredigion ac Aberteifi o 1874 hyd 1886 a chefnogodd sefydliad Coleg Prifysgol yn Aberystwyth.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd David Davies yn dod o deulu eithaf tlawd a ddechreuodd weithio fel llifiwr coed ond llwyddodd i wneud digon o arian ar gyfer adeiladu rheilffordd rhwng Llanidloes a'r Drenewydd. Wedyn cafodd dir gan deulu'r Crawshay yng Nghwm Rhondda ac agorodd bwll glo yno. Fodd bynnag, nid oedd ei ymdrechion i ddod o hyd i wythïen lo yn llwyddiannus a daeth ei arian i ben wrth chwilio amdani. Cytunodd y gweithwyr i weithio am wythnos arall heb gyflog ac fe ddarganfuwyd glo yn ystod yr wythnos honno! Sefydlwyd pyllau glo'r Parc, Treorci a Maendy gan Davies a thrwy hyn, dechreuodd Cwm Rhondda ddatblygu i fod yn faes glo pwysig iawn.

Gan fod Ardalydd Bute yn dal i godi taliadau yn nociau Caerdydd, adeiladodd David Davies ddociau glo newydd yn Y Barri, porthladd mwyaf Cymru erbyn 1914.

Cof[golygu | golygu cod]

Mae casgliad celf ei wyresau Gwendoline Davies a Margaret Davies i'w gweld gan y cyhoedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Heddiw, saif cerflun David Davies ar bwys yr A470 yn Llandinam ac yn Nociau y Barri.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Thomas Lloyd
Aelod Seneddol dros Aberteifi
18741885
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
Thomas Edward Lloyd
Aelod Seneddol dros Geredigion
18851886
Olynydd:
William Bowen Rowlands