Philip Dudley Waller

Oddi ar Wicipedia
Philip Dudley Waller
Ganwyd28 Ionawr 1889 Edit this on Wikidata
Caerfaddon Edit this on Wikidata
Bu farw14 Rhagfyr 1917 Edit this on Wikidata
Arras Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
SafleClo Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi rhyngwladol yw Philip Dudley Waller (28 Ionawr 188914 Rhagfyr 1917).

Ganwyd Phil Waller fel y caiff ei alw yn Odd Down, Caerfaddon ar yr 28 Ionawr 1889, ond erbyn troad y ganrif roedd ef a'i deulu wedi symud i Gaerfyrddin, a chychwynodd ei yrfa rygbi gan chwarae i glwb rygbi'r ysgol (Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth). Dechreuodd weithio fel prentis beiriannydd i'r Alexandra Docks and Railway Company yng Nghasnewydd pan oedd yn 17 oed, gan weithio dan y cyn-chwaraewr rygbi Tom Pearson. Ni fu Pearson yn hir cyn ei recriwtio i dîm rygbi Casnewydd[1], a chafodd ei ddyrchafu i'r tîm cyntaf yn ystod tymor 1906-7. Enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn ystod tymor 1908-9[2], gan chwarae ymhob un o'r 5 gêm ryngwladol. Enillodd y tîm cenedlaethol y gamp lawn. Bu'r tîm hefyd yn fuddugol mewn gêm glos iawn yn erbyn tîm cenedlaethol Awstralia.

Chwaraeodd i'r tîm cenedlaethol yn nhymor 1909-1910 hefyd, ond collodd ei le yn y tîm wedi gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ar Ddydd Calan 1910. Roedd y dewiswyr am ganolbwyntio ar y sgrym, a rhoddwyd ei le i Joe Pugsley a oedd yn well sgrymiwr.

Cafodd ei ddewis i fod yn rhan o dim Prydain i deithio i hemisffer y de, gan chwarae ymron pob un o'r pedair gêm ar hugain, gan gynnwys y tair gêm brawf.

Penderfynodd Phil Waller aros yn Johannesburg wedi'r daith, gan derbyn swydd peirianydd yn y fwrdeistref, a bu'n gweithio yno am y pum mlynedd nesaf, gan chwarae i'r Wanderers, y tîm rygbi lleol. munodd a Magnelwyr De Affrica [South African Heavy Artillery] ym mis Awst 1915, gan hyfforddi ym Mhrydain gyda'r Magnelwyr ym Mexhill-on-Sea, dwyrain Sussex. Tra ym Mhrydain, chwaraeodd ddwy gêm rygbi bwysig i'r Fagnelwyr yn erbyn pymtheg Milwrol Seland Newydd.

O fewn pythefnos i'r ail gêm, gadawodd y Magnelwyr am y ffrynt gorllewinol, ac yn ystod yr ugain mis y bu yno, cymerodd ran mewn brwydrau'r Somme, Arras, Ypres a Cambrai. Cafodd ei ddyrchafu'n is-gapten ym 1917. Cafodd ei ladd gan sielio strae wrth iddo deithio adref ar seibiant ar ôl Brwydr Cambrai. Fe'i claddwyd ym Mynwent Gornel y Groes Goch ym Meugny, ar y ffordd rhwng Cambrai a Bapaume.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Gwyn Prescott, Call them to Rememberance: the Welsh rugby internationals who died in the Great War (Caerdydd, 2014)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Philip Dudley Waller - History of Newport RFC". Cyrchwyd 2015-09-07.
  2. "New Welsh Caps - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-12-12. Cyrchwyd 2015-09-07.