John Roose Elias

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Roose Elias
Ganwyd 1819, 9 Rhagfyr 1819 Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Ionawr 1881 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth bardd Edit this on Wikidata

Bardd a beirniad llenyddol a ysgrifennai yn Gymraeg a Saesneg oedd John Roose Elias (9 Rhagfyr 181919 Ionawr 1881), a ysgrifennai wrth yr enw barddol Y Thesbiad. Roedd yn nai i'r pregethwr enwog John Elias (1774-1841).

Brodor o Fryn-du, Ynys Môn ydoedd. Yn ddyn ifanc aeth i weithio yn siopau masnachwyr Cymreig yn ninasoedd Lerpwl a Manceinion, yng ngogledd-orllewin Lloegr. Dychwelodd i Fôn yn 1856 gan sefydlu busnes ym mhentref Pentraeth, lle bu aros am weddill ei oes.

Fel llenor cyfrannodd nifer fawr o erthyglau i gylchgronau, yn y ddwy iaith, ar lenyddiaeth, pynciau cymdeithasol a gwleidyddiaeth y cyfnod. Cafodd enw am fod yn feirniad craff.

Cyhoeddodd nifer o gerddi, yn Gymraeg a Saesneg, ond dim ond un gyfrol o'i waith, Llais o'r Ogof (1877), a gyhoeddwyd.