Antoon van Dyck
| Antoon van Dyck | |
|---|---|
| Ganwyd | Anthonio 22 Mawrth 1599 Antwerp |
| Bu farw | 9 Rhagfyr 1641 Llundain, Blackfriars |
| Dinasyddiaeth | yr Iseldiroedd Sbaenaidd |
| Galwedigaeth | arlunydd, ysgythrwr, dramodydd, cyfarwyddwr theatr, cyfieithydd, dramodydd, arlunydd llys, drafftsmon, drafftsmon, arlunydd graffig, celfyddydwr |
| Swydd | arlunydd llys |
| Adnabyddus am | Jupiter ac Antiope, Siarl Iaf yn Hela, Siarl iaf mewn 3 safle, Portrait of Catarina Balbi Durazzo, Double portrait of Cornelis and Lucas de Wael, Christ of the Coin, Engravings after the portrait, Portrait of Marcello Durazzo, Paolina Adorno Brignole-Sale, Portrait of a Young Patrician, Portrait of the Goldsmith Pucci with his Son |
| Arddull | portread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, alegori, peintio hanesyddol, portread, peintio lluniau anifeiliaid |
| Prif ddylanwad | Peter Paul Rubens |
| Mudiad | paentiadau Baróc |
| Tad | Franchois Van Dyck |
| Mam | Maria Cuypers |
| Priod | Mary Ruthven |
| Partner | Margaret Lemon |
| Plant | Justiniana van Dyck |
| Gwobr/au | Marchog Faglor |
| llofnod | |
Arlunydd o Fflandrys a ddaeth yn arlunydd y llys brenhinol yn Lloegr oedd Antoon van Dyck, hefyd wedi ei Seisnigo i Anthony van Dyck ac amrywiadau eraill (22 Mawrth 1599 – 9 Rhagfyr 1641).[1]
Ganed Van Dyck yn Antwerp i rieni cefnog. Astudiodd arlunio dan Hendrick van Balen, a daeth yn arlunydd annibynnol erbyn tua 1615. O fewn ychydig flynyddoedd daeth yn brif gynorthwydd i Peter Paul Rubens.
Aeth i Loegr am gyfnod yn 1620, lle bu'n gweithio i James VI a I, brenin yr Alban a Lloegr, yna bu yn yr Eidal o ddiwedd 1621 hyd 1627, gan weithio yn Genova yn bennaf. Dychwelodd i Lundain yn 1632, lle bu'n gweithio i'r brenin Charles I fel prif arlunydd y llys. Mae'n adnabyddus am ei bortreadau o Charles I a'i deulu.
Cymerwyd ef yn wael ym Mharis yn 1641, a bu farw yn fuan ar ôl dychwelyd i Lundain.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Anthony van Dyck". Netherlands Institute of Art (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Mawrth 2021.