Neidio i'r cynnwys

Mayflower

Oddi ar Wicipedia
Mayflower
Enghraifft o:llong nwyddau Iseldiraidd Edit this on Wikidata
PerchennogChristopher Jones Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/09gqd edit this on wikidata
QuoraMay-flower-23 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Replica o'r llong hwylio Mayflower (Mayflower II) yn harbwr Plymouth, Massachusetts

Llong nwyddau Iseldiraidd (fluyt) oedd y Mayflower a gludodd y criw o bobl a elwir weithiau'n "Dadau'r Pererinion" o Plymouth i'r Byd Newydd, sef yr hyn a elwir heddiw yn America yn 1620. Hyd y gwyddus, nid oedd Cymry ar fwrdd y llong.

Ar ôl 10 wythnos ar y môr, cyrhaeddodd y Mayflower, gyda 102 o deithwyr a chriw o tua 30, y lle a elwir heddiw yn 'Unol Daleithiau', gan ollwng angor ger Cape Cod, Massachusetts, ar 21 Tachwedd 1620. Roedd y gymuned yn benderfynol o groesi'r Iwerydd am America, a ystyrient yn "Wlad Addewid newydd", lle byddent yn sefydlu Trefedigaeth Plymouth.[1]

Ar ôl cyrraedd yn Nhachwedd, roedd yn rhaid iddyn nhw ddioddef gaeaf caled heb baratoi. O ganlyniad, dim ond hanner y Pererinion gwreiddiol a oroesodd y gaeaf cyntaf yn Plymouth. Oni bai am gymorth y bobl frodorol lleol a ddysgodd iddyn nhw sut i gasglu bwyd a sgiliau goroesi eraill iddyn nhw, efallai y byddai'r holl wladychwyr wedi marw. Y flwyddyn ganlynol, dathlodd y 53 a oroesodd y Diolchgarwch cyntaf, yn dilyn y cynhaeaf ynghyd â 90 o bobl frodorol Americanaidd o'r enw'r Wampanoag.[2][3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rebecca Fraser, The Mayflower (Efrog Newydd: St. Martin's Press, 2017)
  2. "Primary Sources for 'The First Thanksgiving' at Plymouth" (PDF). Pilgrim Hall Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-11-23. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2009. The 53 Pilgrims at the First Thanksgiving
  3. Winslow, Edward (1622), Mourt's Relation, p. 133, http://factreal.files.wordpress.com/2009/11/heritagepilgrimsmourtsrelationjournalbywinslow.pdf, adalwyd 20 Tachwedd 2013, "Daeth llawer o'r Indiaid i'n plith, ac ymhlith y gweddill eu brenin mwyaf Massasoyt, gyda rhyw naw-deg o ddynion, a wnaethom ni eu diddanu a rhanu gwledd am dridiau"
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am long neu gwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.